PWRPAS EGLWYS 1 - PowerPoint PPT Presentation

1 / 63
About This Presentation
Title:

PWRPAS EGLWYS 1

Description:

PWRPAS EGLWYS 1. Byddwn yn ... Heddiw byddwn yn ystyried yr Eglwys yn parhau gweinidogaeth Iesu Grist. ... trin doluriau - cludo i'r gwesty - talu am ei le ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:604
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 64
Provided by: ele88
Category:
Tags: eglwys | pwrpas | trin

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: PWRPAS EGLWYS 1


1
PWRPAS EGLWYS 1
  • Byddwn yn dilyn y thema mewn tair sesiwn
  • Eglwys yn parhau gweinidogaeth Iesu Grist
  • Eglwys yn parhau gweinidogaeth Iesu Grist
    heddiw
  • Eglwys yn cynnig addoliad a gwasanaeth er clod
    i
  • Dduw.
  • Heddiw byddwn yn ystyried yr Eglwys yn parhau
    gweinidogaeth Iesu Grist. Dechreuwn gydag
    addoliad byr.

2
  • Emyn 752 Mae arnaf eisiau sêl im cymell at dy
    waith
  • Darllen Salm 1451-13
  • Gweddi Y mae dy holl waith yn dy foli,
    Arglwydd,
  • Ath saint yn dy fendithio.
  • Dywedant am ogoniant dy deyrnas,
  • A sôn am dy nerth,
  • Er mwyn dangos i ddynion dy weithredoedd
    nerthol.
  • Ein Tad, down at ein gilydd ith foli ath
    fendigo, yn barod i ddysgu am ogoniant dy
    deyrnas, i sôn am dy nerth ath allu er mwyn
    gwneud yn hysbys dy weithredoedd ir
    genhedlaeth hon, o fewn y gymuned hon a thu hwnt.
    Bydded mawl i ti yn ein plith bydded ith
    egni ein harwain, fel bon bywyd ym mhob cylch
    yn fynegiant oth ryfeddod bob amser, Amen.

3
CEFNDIR GWEINIDOGAETH IESU GRIST
  • Maer Testament Newydd yn sôn am drefn newydd yn
    taro ar
  • fywyd y byd yn Iesu o Nasareth.
  • Adeg ei eni doethion yn gweld arwyddion cosmig,
    bugeiliaid
  • yn teithio, angylion au hwynebau tuar
    ddaear.
  • Mathew yn dweud bod un mwy nar deml ac nar
    Saboth yma
  • (121-8)
  • Luc yn gweld trefn addawyd drwyr Proffwyd
    Eseia, (416-19)
  • Ioan Duw yn ei fynegi ei hun ir byd yn Iesu
    Grist
  • (Ioan 11-5, 14-18)
  • Paul Os yw dyn yng Nghrist y maen greadigaeth
    newydd
  • (2 Cor5-17)
  • Datguddiad (211-5) Wele rwyf yn gwneud popeth
    yn
  • newydd.

4
  • Bywyd a gwaith, marw a chyfodi Iesu yn
  • gwireddu gobeithion crefydd yr Hen
  • Destament
  • Ioan Fedyddiwr Paratowch ffordd yr Arglwydd
    (Luc 31-6)
  • Digwyddiadau yn cyflawni addewidion proffwydi,
    e.e. (Math1215 Math 814-17)
  • Geiriau Iesu clywsoch ddywedyd ... ond rwyf
    fin dweud wrthych (Mathew 521-48)
  • Y Cyfamod Newydd (1 Cor 1123-26)

5
  • Yn Iesu daeth natur ac ansawdd bywyd y Duw Byw
    iw lawnder. Daeth teyrnasiad Duw i blith ei
    bobl mewn ffordd newydd. Duw gyda ni.

6
  • Manylwn ar
  • Bobl Iesu
  • Neges Iesu
  • Gweithredoedd Iesu
  • Marwolaeth Iesu

7
POBL IESU
  • Ceisiodd Iesu gyrraedd pawb.
  • Pysgotwyr oedd ei ddisgyblion cyntaf (Marc
    116-20)
  • Maen bwyta gydar casglwyr trethi a
    phechaduriaid (Luc 191)
  • Bartimeus gwr dall, tlawd (Marc 1046)
  • Rhyw wraig or dref (putain?) Luc 737
  • Gwraig o Syroffenicia (Marc 724)
  • Gwraig o Samaria (Ioan 4)
  • Nicodemus, y Pharisead (Ioan 1)
  • Canwriad Rhufeinig (Mathew 85-13)

8
BARTIMEUS
  • Daethant i Jericho. Ac fel yr oedd yn mynd
    allan o Jericho gydai ddisgyblion a chryn dyrfa,
    yr oedd mab Timeus, Bartimeus, cardotyn dall, yn
    eistedd ar fin y ffordd. A phan glywodd mai Iesu
    o Nasareth ydoedd, dechreuodd weiddi a dweud,
    Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf. Ac yr oedd
    llawer yn ei geryddu ac yn dweud wrtho am dewi
    ond yr oedd yntaun gweiddin uwch fyth, Fab
    Dafydd, trugarha wrthyf. Safodd Iesu, a
    dywedodd, Galwch arno. A dyma hwyn galw ar y
    dyn dall a dweud wrtho, Cod dy galon a saf ar dy
    draed y maen galw arnat. Taflodd yntau ei
    fantell oddi arno, llamodd ar ei draed a daeth at
    Iesu. Cyfarchodd Iesu ef a dweud, Beth yr wyt
    ti am i mi ei wneud iti? Ac meddair dyn dall
    wrtho. Rabbwni, y mae arnaf eisiau cael fy
    ngolwg yn ôl. Dywedodd Iesu wrtho, Dos, y mae
    dy ffydd wedi dy iacháu di. A chafodd ei olwg
    yn ôl yn y fan, a dechreuodd ei ganlyn ef ar hyd
    y ffordd. (Marc 1046-52)
  • Efallai y dymunar aelodau ddarllen eu Beibl eu
    hunain

9
TAFLEN WAITH 1
  • Arhoswn yma i roi cyfle i unigolion / grwpiau
    ystyried
  • Yr hanes o safbwynt Bartimeus
  • - Pwy ydoedd, beth oedd ei gyflwr?
  • - Beth oedd ei gri ai angen
  • - Sut y dynesodd Iesu ato.
  • Yr hanes o safbwynt Marc
  • - Lleoliad yr hanes diwedd pennod 10
  • - pobl oi gwmpas eu hagwedd
  • - ymateb Iesu

10
  • Beth ywr neges?
  • Mor werthfawr yw cardotyn dall ar fin ffordd.
  • Gwerth taerineb a dyfalbarhad.
  • Grym teyrnasiad Duw yn Iesu yn adfer a rhyddhau
    Bartimeus.
  • Angen agor llygaid pawb i ddirnad ac
  • ymateb i egni cariad sydd ar waith yn Iesu.

11
Y WRAIG O SAMARIA
  • Dyma wraig o Samaria yn dod yno i dynnu dwr.
    Meddai Iesu wrthi Rho i mi beth iw yfed. Yr
    oedd ei ddisgyblion wedi mynd ir dref i brynu
    bwyd. A dymar wraig o Samaria yn dweud wrtho.
    Sut yr wyt ti, a thi yn Iddew, yn gofyn am
    rywbeth iw yfed gennyf fi, a minnaun wraig o
    Samaria? (Wrth gwrs, ni bydd yr Iddewon yn
    rhannur un llestri âr Samariaid). Atebodd Iesu
    hi, Pe bait yn gwybod beth yw rhodd Duw, a phwy
    syn gofyn iti, Rho i mi beth iw yfed, ti
    fyddai wedi gofyn iddo ef a byddai ef wedi rhoi i
    ti ddwr bywiol. Syr, meddair wraig wrtho,
    nid oes gennyt ddim i dynnu dwr, ac y maer
    pydewn ddwfn. O ble, felly, y mae gennyt y dwr
    bywiol yma? A wyt tin fwy na Jacob, ein tad
    ni, a roddodd y pydew inni, ac a yfodd ohono, ef
    ei hun ai feibion ai anifeiliaid? Atebodd
    Iesu hi, Bydd pawb syn yfed or dwr hwn yn
    profi syched eto ond pwy bynnag syn yfed or
    dwr a roddaf fi iddo, ni bydd arno syched byth.
    Bydd y dwr a roddaf iddo yn troi yn ffynnon o
    ddwr oi fewn, yn ffrydio i fywyd tragwyddol.
    (Ioan 47-14)
  • Efallai y dymunar aelodau ddarllen eu Beibl eu
    hunain

12
TAFLEN WAITH 2
  • Beth yw arwyddocâd Samaria a gwraig o
  • Samaria ir stori
  • Beth ywr dwr bywiol Ar gyfer pwy?
  • Ystyriwch a wyt tin fwy nan tad Jacob?

13
BETH YWR NEGES?
  • Bywyd cariad Crist ynom syn ddwr bywiol.
  • Y maen torri syched dynoliaeth am fywyd go
    iawn.
  • Y maen chwalu ffiniau a hen wahanfuriau.
  • Y maen creu cymuned o ddynoliaeth newydd.
  • Ond y maen neges heriol syn hawlio ymateb.

14
TAFLEN WAITH 3
  • 1Yr oedd dyn o blith y Phariseaid, or enw
    Nicodemus, aelod o Gyngor yr Iddewon. 2
    Daeth hwn at Iesu liw nos a dweud wrtho, Rabbi,
    fe wyddom iti ddod atom yn athro oddi wrth Dduw
    ni allai neb wneud yr arwyddion hyn yr wyt tin
    eu gwneud oni bai fod Duw gydag ef. 3 Atebodd
    Iesu ef Yn wir, yn wir, rwyn dweud wrthyt,
    oni chaiff dyn ei eni or newydd ni all weld
    teyrnas Dduw. (Ioan 31-3)

15
  • Ystyriwch
  • Arwyddocâd Nicodemus Y PHARISEAD
  • Cyffes Nicodemus ad.2
  • Ymateb Iesu ad.3

16
  • Dysgwn
  • Ffydd yr Hen Destament yn annigonol. Daeth y
    newydd.
  • Rhaid agor meddwl a chalon i dderbyn trefn newydd
    Duw yn Iesu
  • Derbyn grym cariad Duw yw arwydd cyflawnir hen a
    chroesawur newydd.
  • Maer Eglwys felly yn
  • gymuned bywyd newydd y bywyd tragwyddol
  • ei phwrpas yw byw a chyhoeddi bywyd teyrnas
    Dduw
  • fel rhagflas or deyrnas sydd i ddod yn ei
    llawnder.

17
TAFLEN WAITH 4
  • Ar ôl iddo fynd i mewn i Gapernaum daeth canwriad
    ato ac erfyn arno Syr, y mae fy ngwas yn
    gorwedd yn y ty wedi ei barlysu, mewn poenau
    enbyd. Dywedodd Iesu wrtho, Fe ddof fi iw
    iachau. Atebodd y canwriad, Syr, nid wyf yn
    deilwng i ti ddod dan fy nhô ond dywed air yn
    unig, a chaiff fy ngwas ei iachau. Oherwydd dyn
    sydd dan awdurdod wyf finnau, a chennyf filwyr
    danaf byddaf yn dweud wrth hwn, Dos, ac fe â,
    ac wrth un arall, Tyrd, ac fe ddaw, ac wrth fy
    ngwas, Gwna hyn, ac fei gwna. Pan glywodd
    Iesu hyn, fe ryfeddodd, a dywedodd wrth y rhai
    oedd yn ei ddilyn, Yn wir, rwyn dweud wrthych,
    ni chefais gan neb yn Israel ffydd mor fawr. 13
    A dywedodd Iesu wrth y canwriad, Dos ymaith
    boed iti fel y credaist. Ac fe iachawyd ei was
    y munud hwnnw. (Mathew 85-10, 13)

18
  • Ystyriwch
  • A ydywr cyfeiriad at Capernaum a chanwriad
    yn bwysig?
  • Pam y gwnaeth y canwriad argraff ar Iesu?
  • Beth yw arwyddocâd adnod 13.

19
CASGLIADAU
  • Pwrpas eglwys yw parhau gweinidogaeth Iesu
  • Ymgorffori bywyd teyrnasiad Duw yn y byd
  • Byw yng ngrym ac egni cariad Iesu.
  • Rhoddi lle i a bri ar fywyd pob person.
  • Meithrin dynesiad cynhwysol at ei thasg.
  • Gwneud yn fyw ac eglur flaenoriaethau a
    gwerthoedd trefn Teyrnasiad Duw.
  • Herio a galw dynoliaeth gyfan i brofi ac ymostwng
    i fywyd ei Deyrnasiad.

20
  • Yn Iesu daeth pwer teyrnasiad Duw yn fyw mewn
    person yn ei fyd. Gwahoddiad i fyw yn y pwer
    hwnnw yw gwahoddiad Iesu cyfannu bywyd yw ei
    nôd.
  • Estyn y gwahoddiad i bawb yw pwrpas eglwys.

21
GWEITHREDOEDD NERTHOL IESU
  • Y mae gwyrthiau neu weithredoedd nerthol Iesu yn
    arwyddion pellach o rym teyrnasiad brenhinol Duw
    yn gwawrio ar fywyd y byd
  • iachau afiechydon
  • rhyddhau o afael ysbrydion aflan
  • adfer golwg a chlyw
  • bwydor tyrfaoedd

22
TAFLEN WAITH 5
  • Pan glywodd Ioan yn y carchar am weithredoedd
    Crist, anfonodd trwy ei ddisgyblion a gofyn iddo,
    Ai ti ywr hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr
    ydym i ddisgwyl? Ac atebodd Iesu hwy, Ewch a
    dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych yn ei glywed
    ac yn ei weld. Y maer deillion yn cael eu golwg
    yn ôl, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn
    cael eu glanhau ar byddariaid yn clywed, y meirw
    yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da.
    Gwyn ei fyd y sawl na ddaw cwymp iddo om achos
    i.
  • Mathew 112-6

23
  • Ystyriwch
  • Sut y deallwch gwestiwn Ioan?
  • Sut mae Iesu yn delio gydar cwestiwn?
  • Beth ywr her?
  • Beth ddywed yr hanesyn wrthym am bwrpas yr Eglwys
    heddiw?

24
  • Nodwn
  • Maer hyn a wna Iesu yn ogystal ar hyn a ddysga
    yn arwyddo bod teyrnasiad Duw wedi gwawrio ar
    ddynoliaeth.
  • Mae ei weithredoedd nerthol yn arwyddion fod grym
    Duw ar waith yn Iesu.
  • Pwrpas yr Eglwys yw gwneud yn fyw her teyrnasiad
    cariad ger bron pobl gan ddod a iachâd a
    chyfanrwydd i unigolion, cymunedau a chenhedloedd.

25
  • Mae i wyrthiau arwyddocâd ysbrydol
  • Darllener Mathew 1413-21
  • Ystyriwch
  • Arwyddocâd tosturiodd (ad. 14)
  • Y bara yn yr anialwch
  • Natur sacramentaidd y wyrth

26
  • Neges Mae gwyrthiaur bwydo yn arwyddion
  • - or Meseia rhyfeddod a dirgelwch
    Duw
  • - o addewid wedi ei gyflawni
  • - o anghenion yn cael eu cyfarfod

27
  • Maer Eglwys yn y byd i rannu barar bywyd ac i
    ddod a chyfanrwydd a chyflawniad ir holl bobl,
    unigolion, cymunedau a chenhedloedd.
  • Rhowch chi rhywbeth iddynt iw fwyta

28
  • Dim gwneuthurwr rhyfeddodau!
  • Mae rhai gwyrthiau yn cynnwys gweithred
  • Iesu yn ymestyn ei law at y gwahanglwyf, ai
    gyffwrdd (Marc 141)
  • Iesun cydio ym merch Jairus wrth ei llaw
    (Marc 541)
  • Iesun cyffwrdd y rhan afiach y mud ar byddar
    (Marc 731) ac felly
  • Yn cyrraedd yr angen

29
  • Mewn rhai gwyrthiau nid oes gweithred dim
  • ond llefarur Gair
  • Iesun bwrwr cythraul allan gyda gair (Luc
    435)
  • Iesun tawelur storm (Luc 824)
  • Iesun gwellar dyn dall (Luc 1842)
  • neur llaw wywedig (Luc 610)
  • Neges maer weithred ar gair yn fynegiant or
  • grym creadigol sydd ar waith yn Iesu.

30
  • 14Yr oedd yn bwrw allan gythraul, a hwnnwn un
    mud. Ac wedi ir cythraul fynd allan, llefarodd
    y mudan. Synnodd y tyrfaoedd, 15 ond meddai
    rhai ohonynt, Trwy Beelsebwl, pennaeth y
    cythreuliaid, y maen bwrw allan gythreuliaid.
    16 Yr oedd eraill am ei brofi, a gofynasant am
    arwydd ganddo or nef. 17 Ond yr oedd ef yn
    deall eu meddyliau hwy, ac meddai wrthynt, Caiff
    pob teyrnas a ymrannodd yn ei herbyn ei hun ei
    difrodi, ar tai yn cwympo ar ben ei gilydd. 18
    Ac os yw Satan yntau wedi ymrannu yn ei erbyn ei
    hun, sut y saif ei deyrnas? gan eich bod chwin
    dweud mai trwy Beelsebwl yr wyf yn bwrw allan
    gythreuliaid. 19 Ac os trwy Beelsebwl yr wyf
    fin bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich
    disgyblion chwi yn eu bwrw allan? Am hynny hwy
    fydd yn eich barnu. 20 Ond os trwy fys Duw yr
    wyf fin bwrw allan gythreuliaid, yna y mae
    teyrnas Dduw wedi cyrraedd atoch. 21 Pan fydd
    dyn cryf yn ei arfwisg yn gwarchod ei blasty ei
    hun, bydd ei eiddo yn cael llonydd 22 ond pan
    fydd un cryfach nag ef yn ymosod arno ac yn ei
    drechu, bydd hwnnwn cymryd yr arfwisg yr oedd ef
    wedi ymddiried ynddi, ac yn rhannur ysbail.
    23 Os nad yw dyn gyda mi, yn fy erbyn i y mae,
    ac os nad ywn casglu gyda mi, gwasgaru y mae.
    (Luc 1114-23)

31
TAFLEN WAITH 6
  • Sut y mae deall y cyhuddiad yn erbyn Iesu yn
    adnod 15
  • Sut y deallwch 3 amddiffyniad Iesu 17-18 / 19 /
    20-21
  • - teyrnas wedi ymrannu
  • - ffynhonnell ei egni ef Beelsebwl?
  • - ffynhonnell ei egni ef cryfach o Dduw
  • y mae!

32
  • Dau bwynt arall
  • Mae angen dirnad a deall pwy yw Iesu, h.y. ffydd
  • Y wraig gyffyrddodd â mantell Iesu (Mathew 922)
  • Y dyn dall (Marc 1052)
  • Y gwahanglwyf (Luc 1719)
  • Gwyrth yn foddion maddeuant
  • Iachau y claf or parlys (Marc 21-12)

33
  • CASGLIADAU
  • Mae ei weithredoedd nerthol yn gyfrwng i adnabod
    Iesu
  • Ei allu i gyfarfod ag a chyflawni anghenion
    dynol.
  • Wneud yn gyfan fywydau toredig
  • Wneud yn bosibl perthynas newydd â Duw ei hun
  • Maent yn gyfrwng datguddiad
  • Pwy yw Iesu?
  • Wedi ei feddiannu â grym adnewyddol cariad Duw
  • Arwyddion o wawr ei deyrnas.

34
  • Ir Eglwys maent yn cadarnhau ei phwrpas
  • Yn gadarnhad fod Iesu yn Arglwydd, yn arwydd or
    deyrnas syn dod.
  • Yn ddeunydd addysgu a hyfforddi mewn adfer,
    iachau a chyfannu bywyd.
  • Yn ei hatgoffa or angen am fynegi ffydd gyda
    gweithredu proffwydol yn ei rym ef.

35
EI NEGES
  • Cysyniad canolog bywyd Iesu yw
  • Teyrnas neu Teyrnasiad Duw
  • Maen clymu ynghyd mewn undod
  • Ei bobl
  • Ei weithredoedd
  • Ei neges

36
  • Gwreiddiaur cysyniad o Deyrnas Duw
  • Yn ddwfn yn hanes a chrefydd yr Hen
  • Destament
  • Yn amlwg yng nghrefydd yr Iddewon
  • Rhoddai obaith a disgwyliadau ir genedl.

37
  • Neges y Testament Newydd yw
  • Cyflawni y gobaith ar disgwyliadau yn Iesu o
    Nasareth.
  • Bod y Deyrnas wedi dod yn Iesu ef yn
    ymgorfforiad ohoni (Marc 115).
  • Ond y mae eto i ddod yn ei llawnder.
  • Mae
  • Yn awr yn dyngedfennol
  • Ir eglwys
  • Ir byd

38
  • Dysgeidiaeth Iesu yn sôn wrthym am
  • Natur y Duw syn teyrnasu
  • Bwriadau y Duw syn teyrnasu
  • Galwad y Duw syn teyrnasu

39
TAFLEN WAITH 7
  • Natur Duw
  • Ac meddai, Yr oedd dyn a chanddo ddau fab.
    Dywedodd yr ieuengaf ohonynt wrth ei dad, Fy
    nhad, dyro imir gyfran oth ystad sydd i ddod
    imi. A rhannodd yntau ei eiddo rhyngddynt.
    Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, wedi newid y
    cwbl am arian, ymfudodd y mab ieuengaf i wlad
    bell, ac yno gwastraffodd ei eiddo ar fywn
    afradlon. Pan oedd wedi gwarior cyfan, daeth
    newyn enbyd ar y wlad honno, a dechreuodd yntau
    fod mewn eisiau. Aeth yn weithiwr cyflog i un o
    ddinasyddion y wlad, ac anfonodd hwnnw ef iw
    gaeau i ofalu am y moch. Buasain falch o wneud
    pryd or plisg yr oedd y moch yn eu bwyta ond
    nid oedd neb yn cynnig dim iddo. Yna daeth atoi
    hun a dweud, Faint o weision cyflog sydd gan fy
    nhad, a phob un ohonynt yn cael mwy na digon o
    fara, a minnau yma yn marw o newyn? Fe godaf, ac
    fe af at fy nhad a dweud wrtho, Fy nhad, pechais
    yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di. Nid wyf mwyach
    yn haeddu fy ngalw yn fab iti cymer fi fel un
    oth weision cyflog. Yna cododd a mynd at ei
    dad. A phan oedd eto ymhell i ffwrdd, gwelodd ei
    dad ef. Tosturiodd wrtho, rhedodd ato, a rhoes
    ei freichiau am ei wddf ai gusanu. Ac meddai ei
    fab wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac yn
    dy erbyn di. Nid wyf mwyach yn haeddu fy ngalwn
    fab iti. Ond meddai ei dad wrth ei weision,
    Brysiwch! Dewch â gwisg allan, yr orau, ai
    gosod amdano. Rhowch fodrwy ar ei fys a sandalau
    ar ei draed. Dewch âr llo sydd wedi ei besgi, a
    lladdwch ef. Gadewch inni wledda a llawenhau,
    oherwydd yr oedd hwn, fy mab, wedi marw, a daeth
    yn fyw eto yr oedd ar goll, a chafwyd hyd iddo.
    Yna dechreuasant wledda yn llawen. (Luc
    1511-24)

40
  • Ystyriwch
  • Awydd y mab ieuengaf i weld y byd ai mentrus,
    penchwiban, dealladwy, naturiol?
  • Pam y syrthiodd?
  • Ei benderfyniad ai weithred yn dod nôl
    edifeirwch
  • Gwnewch restr o fanylion ymateb ei dad wrth ei
    weld yn dod nôl (adnodau 20-24)
  • Pam ymateb y tad oi gyferbynnu âr brawd hynaf?

41
  • Y neges
  • Cariad maddeuant cymod cyfiawnder
  • Perthynas newydd
  • Meddai Iesu un fel yna ydi Duw
  • fel yna mae en gwneud

42
  • Mae damhegion eraill yn darlunio cariad ar waith,
    e.e. darllenwch hanes y Samariad Trugarog (Luc
    1025-37)
  • Defnyddio Samariad fel patrwm
  • Manylion gweithred y Samariad
  • - disgyn or anifail
  • - trin doluriau
  • - cludo ir gwesty
  • - talu am ei le
  • Mae cariad a thosturi yn chwalu gwahanfuriau,
    ehangu
  • gweledigaeth, creu cymuned newydd ehangach,
    meithrin
  • agwedd gynhwysol at ddynoliaeth
  • PAM?
  • Fel yna mae Duw ei hun yn gwneud

43
  • A oes cyfeiriadau eraill gan Iesu syn pwysleisio
    cariad ? maddeuant ? cymod ? cyfiawnder ?
    perthynas newydd
  • Gweddir Arglwydd Mathew 69-14
  • Cyn cynnig addoliad dilys Mathew 523-24
  • Maddau heb derfyn Mathew 1821

44
  • Geilw Iesu Dduw yn Abba an hannog ninnau i
    wneud hynny
  • Dehonglar gyfraith drwy gariad (Mathew 223-28
    Marc 3 1-6)
  • Maer gorchymyn i garun syml dyna a wna Duw!

45
TAFLEN WAITH 8
  • Bwriadau Duw
  • Gwrandewch! Aeth heuwr allan i hau. Ac wrth
    iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr, a
    daeth yr adar ai fwyta. Syrthiodd peth arall ar
    dir creigiog, lle ni chafodd fawr o bridd, a
    thyfodd yn gyflym am nad oedd iddo ddyfnder
    daear a phan gododd yr haul fei llosgwyd, ac am
    nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd. Syrthiodd peth
    arall ymhlith y drain, a thyfodd y drain ai
    dagu, ac ni roddodd ffrwyth. A syrthiodd hadau
    eraill ar dir da, a chan dyfu a chynyddu yr
    oeddent yn ffrwytho a chnydio hyd ddeg ar hugain
    hyd drigain a hyd ganwaith cymaint. Ac meddai,
    Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando,
    gwrandawed. (Marc 43-9)

46
  • Ystyriwch y weithred o hau
  • Gweithred fwriadus
  • Gweithred gyda cholli / gwastraff anorfod
  • Gweithred sicr o lwyddiant
  • Cymharwch gyda Marc 426-29
  • Marc 430-32

47
  • NEGES
  • Y mae teyrnas cariad yma i aros
  • Bwriada Duw iw waith lwyddo nes trawsnewid y byd
    cyfan.
  • Hynnyn golygu ymdrech bwriadus a di-ildio ei
    eglwys serch gelyniaeth neu wrthwynebiad.

48
TAFLEN WAITH 9
  • Darllen Mathew 2531-46
  • Sylwn - y Deyrnas i ddod yn ei llawnder (31)
  • - Teyrnas fyd-eang yw teyrnas cariad (32)
  • - yr egwyddor dyngedfennol yw bywr
    ffydd cyfarfod ag anghenion pobl
  • - cyfannu bywyd ai ddyrchafu
  • - mae brys a rheidrwydd ymateb. (Cymh.
    Math 251-13)

49
  • Meddai Iesu
  • CARIAD ydyw Duw
  • - mewn cariad y maen gweithredu er lles
    dynoliaeth ar greadigaeth
  • - mewn a thrwy gariad maen creu cymod
  • - yn gweithredu cyfiawnder
  • - yn cyfannu bywyd drwyr greadigaeth
  • Dymar NEWYDDION DA yr hyfforddodd Iesu ei
  • ddisgyblion ynddynt ac au hanfonodd iw byw au
  • rhannu.

50
  • Profiad yr agosaf at Iesu yw ei fod mor
  • wahanol ir cyffredin fel bod y Duw byw
  • yn sgleinio ynddo a thrwyddo, yr unig
  • deitl addas iddo ydyw Mab Duw.
  • Ac eto, mae mor agos atynt, wedi ei
  • uniaethu ei hun cymaint â nhw ac â
  • dynoliaeth, teitl arall addas iddo yw Mab
  • y Dyn.

51
  • PWRPAS EGLWYS FELLY YW
  • Rhoi ei hun
  • mewn cariad ir byd ai bobl
  • heb flino
  • heb ddiffygio
  • heb gyfrif y gost
  • fel Iesu ei hunan

52
BETH DDIWGYDDODD IDDO?
  • Gweinidogaeth mor chwyldroadol yn herio
  • Traddodiad, arferion, diwylliant cyfoes
  • Y deall o Dduw ai ffyrdd
  • Statws ac awdurdod Phariseaid, Ysgrifenyddion
    ac ati

53
  • Fel bod drwgdybiaeth ohono
  • gelyniaeth tuag ato
  • cynllwynio yn ei erbyn
  • (Mathew 1214)

54
  • Mae lle i gredu bod Iesun dehongli ei
    weinidogaeth yn nhermau Gwas yr Arglwydd (Eseia
    531-12)
  • Drwy ei ymroddiad di-ildio i bwrpas Duw
  • Ei farw yn aberth syn cadarnhau ymroddiad Duw
    mewn cariad iw greadigaeth ai bobl
  • Mae ei gariad yn foddion glanhau, puro, adfer a
    chymodi
  • Trwy ei gleisiau ef iachawyd ni.

55
OND
  • Yr annisgwyl yw atgyfodiad Iesu
  • Nodwn - amrywiaeth hanesion ei ymddangosiadau
  • - amrywiaeth y profiadau gafwyd ohono
  • Maen ffitio ir dim i fywyd, gwaith a
    dysgeidiaeth Iesu
  • - fod teyrnasiad Duw yn drech na chynllwynio
    gwaethaf dynion
  • - fod y cariad syn rhoi ei hun yn Iesu yn
    drech na dyfnder gwrthodiad dynoliaeth.

56
  • Bellach y mae egni cariad Duw ar gerdded drwyr
    greadigaeth gyfan ac yma i aros i drawsnewid
    bywyd yr holl fyd iw deyrnasiad ef.
  • Maen cadarnhau mewn ffordd ddi-droi-nôl holl
    fywyd Iesu
  • - ni fyddai neges
  • - ni fyddai eglwys
  • heb y Crist fu farw ac sy eton fyw

57
  • Bellach gallwn sôn am y Crist syn mynd o flaen
    ei bobl i bob lle ar bob adeg oherwydd ei gyfodi
    (Mathew 2810)
  • Wedir atgyfodiad anadlodd Iesu ei egni ar ei
    ddisgyblion au hanfon ir byd yn apostolion i
    wneud disgyblion or holl genhedloedd. (Mathew
    2816-20)

58
TAFLEN WAITH 10
  • Meddai Iesu wrthynt eilwaith, tangnefedd i chwi!
  • Fel y maer tad wedi fy anfon i yr wyf fi hefyd
    yn
  • eich hanfon chwi ac wedi dweud hyn, anadlodd
  • arnynt a dweud derbyniwch yr Ysbryd Glân.
  • (Ioan 2021-22)
  • Pwy ddywedodd Tangnefedd, pryd, wrth bwy i
    olygu beth?
  • Ystyr y gair anfon roedd wedi eu galw eisoes
    pam anfon yn awr?
  • Beth yw arwyddocâd y gair anadlodd

59
Crynhoi
  • Yn yr efengylau gwelwn Iesu yn
  • Galw ei ddisgyblion
  • Eu hyfforddi drwy air a gweithred gan
  • Roddi iddynt brofiad byw a phersonol oi neges
    ai waith
  • Agor eu bywyd iw bwer ai bwrpas mawr.
  • ac wedi prawf y groes ar atgyfodiad

60
  • Yn anfon ei ddisgyblion yr apostolion
  • Yn Israel newydd Duw, creadigaeth newydd Duw
    ir dasg o fyw a lledaenu bywyd ei Deyrnasiad Ef
  • Gydag
  • Egni newydd, bywiol, egni bywyd Crist
  • Iw galluogi i gyflawnir dasg.
  • Ac felly

61
  • Pobl yn cael eu galw au hanfon yw pobl Iesu
    Grist.
  • Weithiau defnyddir y gair etholedigion Duw iw
    disgrifio gair syn pwysleisio
  • - cyfrifoldeb yn ogystal â braint
  • - pwrpas yn ogystal ag anrhydedd
  • - bod yn bobl yr Arglwydd, bod yn oleuni,
    bod yn fendith, bod yn obaith.

62
  • Mae pedwar pwyslais sydd angen eu dadbacio

63
  • PWRPAS EGLWYS YW
  • i) parhau mewn cymdeithas âr Iesu Byw.
  • ii) byw mewn ffydd ac ufudd-dod i fywyd
    teyrnasiad Duw drwy
  • iii) dystio mewn meddwl, gair a gweithred i
    deyrnas cariad sydd wedi dod ac i ddod iw
    llawnder Gwneud disgyblion Crist-debyg
  • iv) Fel Iesu, cynnig ei bywyd i Dduw mewn
    addoliad a gwasanaeth ac er gogoniant iddo.
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com