Title: Portreadau Grwp
1Portreadau Grwp
2Syr Thomas Mansel ar Fonesig Jane Mansel
Gan arlunydd anhysbys or Ysgol Brydeinig
paentiwyd tua 1625.
3Syr Thomas Mansel o Fargam, Morgannwg,
(1556-1631) gydai ail wraig Jane Pole. Roedd
Jane Pole yn weddw pan briododd â Thomas Mansel.
Roedd y Teulu Mansel yn un o deuluoedd
cyfoethocaf De Cymru ac roeddent yn berchen ar yr
ystadau a fu unwaith yn eiddo i Abaty Margam.
Comisiynodd Syr Thomas Mansel grwp o bortreadau
yn arddull ffurfiol yr Ysgol Brydeinig yn yr ail
ganrif ar bymtheg. Tybir mai yn Llundain y
cafodd y llun ei baentio, ond maen ddigon posibl
fod arlunwyr arbenigol wedi eu galw o Lundain i
Gymru i weithio yn arddull arlunwyr y llys
brenhinol. Efallai mai symbol ou merch Mary
ywr blodyn Melyn Mair sydd yn llawr Fonesig
Mansel. Cliciwch ar blodau i gael gwybod mwy am
symboliaeth blodau mewn arlunwaith.
4Y Teulu Gwerinol / The Peasant Family
Gan J-F Millet paentiwyd tua 1871-2.
Arlunydd o Ffrainc oedd Millet a chafodd
ddylanwad ar waith yr Argraffiadwyr.
5Beth ydym ni wedi ei ddysgu am bortreadau?
6Disgrifiwch osgor bobl yn y ddau ddarlun.
7Pa liwiau a ddewiswyd gan yr arlunwyr?
8Defnyddiwyd tywyll a golau mewn gwahanol ffyrdd.
Sut?
9Ym mha ffordd mae cefndir y ddau ddarlun yn
wahanol?
10(No Transcript)
11Beth maer portread hwn yn ei ddweud wrthym am y
teulu Mansel?
12Pam na roddwyd enw ir teulu gwerinol?
13A ywr portreadaun realistig?
14Paentiwch ddarlun och teulu chi yn seiliedig ar
ffotograff pa arddull fyddwch chin ei
defnyddio?