Title: DWY WLAD DWY YSGOL
1DWY WLADDWY YSGOL
2Ble yn y byd mae Lesotho?
Un o wledydd cyfandir Affrica yw Lesotho.
3Mae Lesotho ir de or Cyhydedd, ac felly maer
haf yn ystod misoedd Tachwedd, Rhagfyr ac Ionawr
ar gaeaf yn ystod Mehefin, Gorffennaf ac Awst.
Maer tymhorau yn Lesotho felly yn gwbl groes ir
tymhorau yma yng Nghymru.
Gwlad fechan yw Lesotho, wedi ei hamgylchynu ar
bob ochr gan Weriniaeth De Affrica. Mae Lesotho
yn wlad annibynnol gydai brenin ai llywodraeth
ei hun. Rhwng 1868 a 1966 Prydain oedd yn
llywodraethur wlad. Basutoland oedd enwr wlad
bryd hynny.
4- Basotho - dyma yw enw pobl Lesotho.
- Masotho - dymar enw ar un o bobl Lesotho.
- Sesotho - dyma iaith y Basotho.
- Maseru ywr brifddinas ar unig dref fawr yn y
wlad.
5Yn y gaeaf maer tywydd yn gallu bod yn oer iawn,
gydag eira a chenllysg yn syrthio ar y mynyddoedd.
6Maer Basotho yn gwisgo plancedi gwlan i gadwn
gynnes. Maer plancedi yn lliwgar iawn gyda
phatrymau diddorol arnynt.
Maer dynion yn gwisgo het wellt. Y mynydd or
enw Qiloane ar lwmpyn ar ei gopa sydd yn
gyfrifol am siap rhyfedd yr het.
7O Langefni i Lesotho
- Y daith
- I gyrraedd Lesotho roedd rhaid i Mr Pritchard
deithio mewn - tair awyren am gyfanswm o 12 awr
- Manceinion Llundain ( 1
awr ) - Llundain
Johannesburg ( 10 awr) - Johannesburg Maseru
( 1 awr )
8Yn ystod y daith hon roedd Mr Pritchard yn
hedfan
- o gyfandir Ewrop, dros Môr y Canoldir ac i lawr
cyfandir Affrica - dros 9000 km
- dros diffeithdir Y Sahara, safana canolbarth
Affrica, coedwig law y Congo a rhai o afonydd
mwyaf Affrica - uwchben nifer o wledydd Affrica
- o wlad cymharol gyfoethog i wlad dlawd yng
nghyfandir tlotaf y byd - o dymor yr hydref yn hemisffer y gogledd i dymor
y gwanwyn yn hemisffer y de - i ran or byd ble maer clociau ddwy awr o flaen
ein clociau ni