Mam Cymru - PowerPoint PPT Presentation

1 / 12
About This Presentation
Title:

Mam Cymru

Description:

Beth allwn ni ei ddysgu am y wraig hon o edrych ar y darlun ohoni? ... Van Cronenburgh (1520-1604) Hanai ef yn ... Llyfr gweddi ac iddo glawr cain a chlo ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:68
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 13
Provided by: peter258
Category:
Tags: cain | cymru | mam

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Mam Cymru


1
Mam Cymru
2
Beth ywr peth cyntaf welwch chi yn y darlun?
3
(No Transcript)
4
(No Transcript)
5
Van Cronenburgh (1520-1604)
  • Hanai ef yn wreiddiol o wlad Ffrisia yn yr
    Iseldiroedd.
  • Credir iddo dderbyn hyfforddiant fel arlunydd yn
    Antwerp neu Bruges.
  • Yn ôl pob tebyg, paentiwyd y darlun o Catrin ym
    1568 yn Antwerp, pan oedd hin byw yno gydai
    hail wr, Syr Richard Clough.

6
Catrin o Ferain (1534-1591)
  • Ganwyd Catrin i deulu cyfoethog ac roedd yn
    or-or-wyres ir Brenin Harrir VII ac yn gyfyrder
    ir Frenhines Elisabeth 1af. Berain oedd enw ei
    chartref yng Ngogledd Cymru.
  • Daethpwyd i adnabod Catrin yn ddiweddarach fel
    Mam Cymru, oherwydd bod ganddi ddisgynyddion
    dirifedi.
  • Priododd Catrin 4 o weithiau â dynion oedd yn wyr
    cyfoethog a dylanwadol ym materion Cymru. Drwy
    ei chwe phlentyn, sefydlwyd sawl llinach
    fonheddig ymhlith y Cymry. Nid oedd yn
    anghyffredin i berson briodi sawl gwaith yng
    nghyfnod y Frenhines Elisabeth er mwyn diogelu
    cyfoeth y teulu drwy sicrhau etifeddion.

7
  • Byddai arlunwyr yn defnyddio gwrthrychau i
    gynrychioli pethau symbolau ac iddynt ystyron
    ehangach.
  • Beth ywr gwrthrychau hyn a pham dybiwch chi fod
    Catrin yn eu dal?

Llyfr gweddi ac iddo glawr cain â chlo
8
Roedd penglogaun ymddangos yn aml mewn darluniau
fel arwydd o angau er mwyn gwneud i ni feddwl
am yr amser byr y byddwn yn ei dreulio ar y
ddaear.
9
Edrychwch yn ofalus ar y patrymau hyn. Ble maen
nhw iw gweld ar Catrin?
llawes
coler
garddwrn
Cadwyn o gwmpas ei chanol
coler
10
Mae syniad pawb o beth yw harddwch yn wahanol!
Roedd croen gwelw yn arwydd o harddwch a chyfoeth
croen â lliw haul arno oedd gan y werin!
Dechreuodd merched ddefnyddio colur gwynnu yn
ystod teyrnasiad y Frenhines Elisabeth.
11
Golau a Thywyll
Mae gwrthgyferbyniad pendant rhwng tywyll a golau

Pa adrannau syn olau?
Beth fydd yn digwydd os caiff y tywyll ar golau
eu gwrthdroi?
12
Nawr dewch i ddysgu am La Parisienne
neu cewch wybod mwy am y llun ohonof drwy edrych
ar Wyneb yn Wyneb
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com