Yr Argyfwng Ynni - PowerPoint PPT Presentation

1 / 13
About This Presentation
Title:

Yr Argyfwng Ynni

Description:

Rhaid i ni feddwl sut i wneud ynni yn y dyfodol. Mae pob un ohonom yn defnyddio ynni drwy'r dydd, bob dydd! ... Ty Gwyrdd' Sain Ffagan ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:36
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 14
Provided by: dvco6
Category:
Tags: argyfwng | sain | ynni

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Yr Argyfwng Ynni


1
Yr Argyfwng Ynni
Mae ein cyflenwadau ynnin dod i ben. Rhaid i ni
feddwl sut i wneud ynni yn y dyfodol.
2
Mae pob un ohonom yn defnyddio ynni drwyr dydd,
bob dydd!
3
Dawr rhan fwyaf on ynni drwy losgi tanwydd
ffosiledig, megis glo, nwy ac olew.
4
Mae tanwydd ffosiledig yn dod i ben ac yn llygru
ein byd. Byddwn angen bron i 60 yn fwy o ynni
mewn 30 mlynedd. Mae arbenigwyr olew yn
amcangyfrif y byddwn yn defnyddio ein olew i gyd
o fewn y 40 mlynedd nesaf!
5
Dychmygwch mai chi syn rhedeg y wlad. Pa fathau
o ynni fyddech chin ei ddefnyddio? Gwynt,
môr, niwclear, haul, glo? Edrychwch ar y
gwahanol fathau o ynni, wedyn trafodwch eich
dewisiadau.
6
Glo, nwy ac olew.
Mae arbenigwyr olew yn amcangyfrif y byddwn yn
defnyddio ein olew i gyd o fewn y 40 mlynedd
nesaf! Dywed eraill y byddwn yn dod o hyd i fwy.
7
Ynni gwynt
Gall ynni gwynt ar y tir ddarparu incwm
gwerthfawr i gefn gwlad Cymru, yn arbennig i
gymunedau ffermio mewn ardaloedd o dir uchel.
8
Ynni môr
Mae gan y môr o amgylch arfordir Cymru botensial
i gynhyrchu digonedd o drydan drwy harnesu pwer y
llanw, cerrynt a thonnau. Mae gan Gymru gerhyntau
cryfion yn y môr a rhai or amrediadau llanw
uchaf yn y byd.
Mae cynlluniau yn cael eu trafod ar gyfer Bae
Abertawe, Moryd Hafren a Bae Lerpwl.
9
Ynni niwclear
Mae 16 pwerdy niwclear ym Mhrydain ar hyn o bryd
bydd bob un yn cau erbyn 2023. Y syniad yw y
bydd ffynonellau ynni adnewyddol eraill yn cymryd
lle pwer niwclear ac yn esmwythau dibyniaeth
Prydain ar danwydd ffosiledig. Er hynny, maer
llywodraeth ar hyn o bryd yn cael eu cynghori i
adeiladu mwy o bwerdai niwclear os ydynt i gwrdd
â thargedau rhyddhad nwyon ty gwydr.
Dengys y llun hwn bwerdy niwclear Trawsfynydd ym
Mharc Cenedlaethol Eryri. Cafodd ei gau yn 1993.
Cedwir yr adweithyddion niwclear o fewn yr
adeilad o hyd.
10
Gwahanol fath o Niwclear
Mae pwer niwclear heddiw yn cael ei greu drwy
hollti atomau (ymholltiad niwclear). Mae
gwyddonwyr yn datblygu math newydd o bwer
niwclear sydd yn ddiogel iawn ac yn cyfuno atomau
(ymasiad niwclear).
Mae digon o danwydd ymasiad ar gael ac nid ywn
cynhyrchu gollyngiad ty gwydr pan ywn cael ei
losgi. Mae yn ddiogel oherwydd ei fod yn
diffodd os ywn camweithio ac er bod deunyddiau
ymbelydrol yn cael eu cynhyrchu, nid ydynt o
lefel uchel nac yn para am flynyddoedd maith.
Ymasiad syn rhoi egni ir Haul
Bydd angen 30 mlynedd arall i ddatblygu ymasiad
niwclear.
11
Ynni Solar
Mae teils to solar yn defnyddio golaur haul i
greu trydan neu ddwr poeth. Gall tai sydd â
llawer o deils gynhyrchu mwy o drydan nag y maent
yn ei ddefnyddio gellid gwerthu hyn yn ôl i
gwmniau trydan lleol.
12
Tiwbiau Haul
Mae tiwbiau haul yn adlewyrchu golau ddydd
naturiol lawr drwy diwb i mewn i gartref neu
swyddfa. Maent yn ffordd dda o arbed ynni yn
ystod y dydd.
13
Golau naturiol
Ty Gwyrdd Sain Ffagan Mae wyneb ddeheuol y ty
yn wydrog er mwyn manteision llawn ar ynni
solar.
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com