Ysgrifennu Stori - PowerPoint PPT Presentation

About This Presentation
Title:

Ysgrifennu Stori

Description:

Y Cynllun Y Cymeriadau Yr Iaith Stori antur Dirgelwch yr Ogof Stori hanes Twm Sion Cati Stori tylwyth teg Sinderela Stori arswyd Bwganod! Mae r frawddeg agoriadol ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:216
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 11
Provided by: Lynd108
Category:
Tags: cati | stori | ysgrifennu

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Ysgrifennu Stori


1
Meddwl am stori
2
Beth sy'n gwneud stori dda?
  • Y Cynllun
  • Y Cymeriadau
  • Yr Iaith

3
Pa fath o stori yw hi?
Stori hanes
Stori antur
Twm Sion Cati
Dirgelwch yr Ogof
Stori tylwyth teg
Stori arswyd
Sinderela
Bwganod!
4
Sut mae dechrau?
Maer frawddeg agoriadol yn bwysig iawn er mwyn
dal sylwr darllenydd.
Dyma enghraifft Snap! Swn brigyn yn torri...
Dihunodd Cleon sydyn. Gorweddodd yn hollol
llonydd. Y Gath ar Cythraul Helen Emanuel Davies
5
Sut frawddeg gallwn ni ei dewis i ddechrau stori?

Brawddeg sydd yn disgrifio lleoliad.
Brawddeg sydd yn cyflwyno cymeriad diddorol.
Deialog.
Cwestiwn neu ebychiad.
Brawddeg sydd yn creu effaith swn.
6
Beth yw eich barn am y paragraffau agoriadol hyn?
Br-r-r-r! Mae hin oer yma! rhuodd Rhita Gawr
un bore. Wrth gwrs ei bod hin oer ar gopar
Wyddfa yng nghanol mis Ionawr, a dyna ller oedd
yr hen gawr yn byw.
Mae e wedi cyrraedd! mae Yncl Ben wedi
cyrraedd! Rhuthrodd Sam at y drws ffrynt, ai
agor âr fath blwc nes ir drws daro yn erbyn wal
y cyntedd â chlec uchel. Sam! gwaeddodd Mam yn
flin, ond chlywodd Sam mohoni. Roedd e wedi
rhedeg allan i groesawu Yncl Ben. Yncl Ben oedd
arwr Sam.
7
Yn unig ar ben y lôn, heb fod ymhell o dy newydd
Dafydd, safai adfail o fwthyn. Ffrâm goed ar
sgi-wiff oedd yno, a ffenestri bach culion. Roedd
to gwellt blêr wedi llwydo yn hongian yn llipa
drostynt, fel caeadau hanner cau. Y tu ôl iddo
roedd perllan wedi tyfun wyllt o goed cnotiog a
cham. Roedd y bwthyn fel petain wag, ac eton
llawn hen gyfrinachau dychrynllyd.
Agorodd Dylan ddrws gweithdy ei fam er mwyn
dangos y lle iw ffrind newydd. Waw! ebychodd
Gavin. Beth yw dy fam di, Dyl, nutty professor
neu mad scientist neu rywbeth? Ble chin cadw
Ffrancenstein, te?
Gallwch edrych am ragor yn y llyfrgell.
8
Mae cymeriadau yn bwysig mewn stori. Maent yn
amrywio ac yn gallu bod ...


yn anifail.
yn berson.
yn ysbryd.
yn anghenfil.
yn robot.
yn estron.
9
Mewn stori mae angen disgrifio golwg y cymeriad.
Does dim angen disgrifiad sydd yn rhy fanwl, dim
ond y pethau pwysicaf.
Fe fydd y math o bersonoliaeth sydd ganddo yn dod
ir amlwg wrth ddatblygur stori.
Beth am gyflwynor cymeriadau hyn yn eich storïau?
10
Dyma deitlau addas ar gyfer stori-
Cyfrinach Cadi
Trip ir Gofod!
Dirgelwch Plas Mawr
Ennill y Loteri!
Argyfwng!
Ar Goll yn y Goedwig!
Yr Hen Ysgol
Pob hwyl wrth ysgrifennu!
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com