Title: T'G'A'U' CBAC Manyleb B ac Edexcel Manyleb C
1T.G.A.U.CBAC Manyleb B acEdexcel Manyleb
C Dylanwad syniadaur Dadeni ar
feddygaeth Anatomeg Andreas Vesalius ASTUDIAE
TH MEWN DATBLYGIAD IECHYD A MEDDYGAETH, c. 1345
ymlaen
Yr holl ddelweddau trwy garedigrwydd Llyfrgell
Genedlaethol yr U.D. a Phrifysgol Glasgow
2Amcanion y deunyddiau hyn ydy Darparu
ychydig wybodaeth am gefndir Vesalius y
ffactorau a ddylanwadodd ar ei ddatblygiad fel
meddyg ac anatomegydd. Cyflwyno ei brif
weithiau, yn arbennig The Fabric of the Human
Body, 1543 Darparu cyfle i fyfyrwyr i drafod
rhai o brif Vesalius ac i ddadlau eu
harwyddocâd mewn perthynas ag astudiaeth o
atonomeg a datblygiad llawfeddygaeth. Dylid
edrych ar hyn oll yng nghyd-destun Y Dadeni y
newidiadau ar datblygiadau a ddigwyddai o fewn
celfyddyd, gwyddoniaeth a chrefydd yn arbennig.
Diolchiadau mawr i Adran Gasgliadau Arbennig,
Prifysgol Glasgow ac Amgueddfa Feddygaeth yr U.D.
a ganiataodd i ni ddefnyddio rhai or delweddau y
cafwyd hyd iddynt ar eu safweoedd.
3Cliciwch yma i ymchwilio i dudalen deitl Fabric
of the Human Body, Vesalius a gyhoeddwyd gyntaf
yn 1543.
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am The Tabulae
Sex (1538) a Fabric of the Human Body. .
4Gallech ddefnyddior Pen Bwrdd Gwyn ac Amlygwr
yma.
Taflen Waith
Cwestiynau
Delwedd trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol
yr U.D
5- Cwestiynau
- Ble mae Vesalius?
- 2) Pam ydych chin meddwl yr ychwanegwyd ysgerbwd
ir darlun? - 3) Mae mwnci yng nghornel chwith y darlun. Pam
ydych chin meddwl y cafodd o ei ychwanegu? - 4) Ble maer dyraniad yn digwydd?
- 5) Pwy gredwch chi ydyr bobol yn y gynulleidfa.
- Estyniad Disgrifiwch ac eglurwch yr olygfa yn
eich geiriau eich hun.
Taflen Waith
Delwedd trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol
yr U.D
6Archwiliwch y darlun drwy glicio ar y rhannau yr
ydych eisiau ymchwilio iddyn nhw.
7Ceisiwch weithio allan beth mae hwn yn ddweud cyn
clicio am 'fras' gyfeithiad
8F , Fe ddysgodd Andreas Vesalius, Sut i drafod
Gan athro meddygaeth The Fabric of The Human
Body, Llyfr saith
Ceisiwch weithio allan beth mae hwn yn ddweud cyn
clicio am 'fras' gyfeithiad
9Roedd llawer o'r offer meddygol a ddefnyddid yn
ystod Y Dadeni yn debyg iawn i'r rhai a
ddefnyddid yn ystod Y Canol Oesoedd, er
enghraifft, y gylleth syml i dorri cnawd a gefel
i'w dynnu arwahan. Defnyddid lliffiau i dorri
trwy asgwrn ac roedd bachau a morthwyl yn help i
lawfeddyg agor a gwahanu rhannau a fyddai fel
arall yn anodd mynd atynt. Fel yr ai'r Dadeni
rhagddo datblygwyd mwy o offer. Daethant yn fwy
soffistigedig fel y perfformiai llawfeddygon
ddyraniadau a llawfeddygyniaethau mwy cymhleth.
Yn anffodus, doedd yr offer ddim wedi eu
cynllunio i fod yn hawdd i'w glanhau. Yn aml
roedd ganddyn nhw ddolennau a darnau cosod wedi
eu carfio'n goeth. Golygai hyn fod cnawd a gwaed
yn aros ar yr offer, ac felly'n cynyddu'r perygl
o wasgaru haint o un claf i'r llall. Hwyrach y
byddai offer a ddefnyddiwyd mewn dyraniad (fel y
rhai gyferbyn) yn cael eu defnyddio'n
ddiweddarach i roi llawfeddyginiaeth i glaf mewn
ysbyty. Pe bai doctoriaid yn ystod Y Dadeni ond
wedi bod yn ymwybodol o germau!
10Ydy'r myfyriwr yma yn cyfeirio at The Fabric of
the Human Body, neu Galen? Roedd Vesalius yn
annog ei ei feddygon a'i fyfyrwyr i gymharu beth
oedd Galen wedi ei ddweud gyda'r hyn roedden
nhw'n ei weld gyda'u llygaid eu hunainyn ystod
dyraniad. . Doedd nifer o anatomegwyr ddim yn
cytuno efo arsylwadau a damcaniaethau Vesailus.
Mae hyn yn ddealladwy i raddau oherwydd ei fod ef
yn herio eu gweithiau a'u syniadau nhw. Roedd
Vesaliws hefyd yn cywiro gwallau a wneid gan
anatomegwyr a meddygon parchus megis Galen ac
Avicenna. Roedd rhai or syniadau hyn wedi eu
derbyn au dilyn ers miloedd o flynyddoedd.
Byddain rhaid i anatomegwyr a meddygon newid y
ffordd yr edrychid ar y corff dynol ac or
herwydd eu dull o drin cleifion. Drwy hyrwyddo
dyraniad cyhoeddus roedd Vesalius yn gobeithio
profi i'r gynulleidfa (yn cynnwys anatomegwyr a
myfyrwyr) fod ei ddamcaniaethau yn gywir. Byddai
hyn yn cael ei atgyfnerthu drwy gyhoeddiadau
megis The Fabric of the Human Body.
11Roedd meddygon yng nghyfnod Y Groegiaid a'r
Rhufeiniaid yn gwybod am bwysigrwydd edrych ar y
sgerbwd dynol cyflawn wrth astudio anatomegwyr.
Yn anffodus, roedd deddfau a chredoau crefyddol
yn ei gwneud hi'n anodd iawn i edrych ar sgerbwd
heb sôn am fod ym meddiant un ar gyfer astudio.
Roedd rhai meddygon hyd yn oed yn mentro cael eu
harestio ac o bosib eu dienyddio drwy dorri i
mewn i feddrodau mewn ymgais i edrych ar neu
feddiannu un. Honnai Galen (2il ganrif O.C.), yr
hwn roedd ei syniadau wedi dylanwadu ar
syniadaeth feddygol am dros 1400 o flynyddoedd ar
ôl ei farwolaeth, y dylai myfyrwyr meddygol gadw
golwg bob amser am esgyrn dynol hyd yn oed
weddillion lladron oedd wedi eu dienyddio ar
achrau ffyrdd.
Aeth Vesalius i lawer o drafferth ei hun i gael
gafael ar sgerbwd cyfan. Yn 1536 fe deithiodd i
fan lle roedd troseddwr wedi ei ddienyddio ar
gyrion Louvain. Aeth â'r coesau a'r breichiau
adref gyda fo ac yna dychwelyd dros nifer o
ddyddiau er mwyn smyglo gweddill y gelain (corff
marw) i'r ddinas. Byddai meddiannu sgerbwd fwl
hwn, gan weld sut roedd y cymalau'n symud a sut y
cysylltid nhw, yn profi'n amhrisiadwy wrth lunio
The Fabric of the Human Body.
12Ydy'r cymeriadau hyn yn ymladd am yr offer
llawfeddygol neu ydy'r cymeriad sy'n eistedd yn
paratoi'r offer ar gyfer Vesalius? Pam fod y
cymeriadau hyn hwyrach yn anghytuno neu'n cael
trafodaeth? Allwch chi ddychmygu beth allent
fod yn ei drafod neu beth all fod yn cael ei
ddweud mewn achlysur fel hwn?
Cyhoeddwyd gyda Chymeradwyaeth Frenhinol
Cyflwynodd Vesalius ei lyfr Fabric of the Human
Body i'r Ymerawdwr Rhufeinig Sanctaidd, Siarl
V. Gobeithiai y byddai hyn yn ei helpu i dderbyn
cefnogaeth y Brenin ac fe'i cafodd ar ffurf swydd
yn Llys Siarl. Gweithiodd Vesalius fel meddyg yn
y Llys ac nid fel anatomegydd, ond fe dderbyniodd
ddigon o gefnogaeth i gynhyrchu ail argraffiad o
The Fabric of the Human Body a gyhoeddwyd
gyntaf yn 1555. Cynhwysai'r argraffiad hwn nifer
o arsylwadau newydd. Gadawodd Vesalius Lys yr
Ymerawdr yn 1564.
13Mae'n debyg mai fel addurn yr ychwanegwyd y
ceriwbiaid nefolaidd er y gallent bwysleisio
pwysigrwydd y gwaith fel y daliant yr arwyddlun.
Roedd cymaint o sylw, os nad mwy, yn cael ei roi
i gyfansoddiad artistig y gwaith neu destun ag
i'r cynnwys ysgrifenedig. Roedd y Dadeni yn
gyfnod ail-eni mewn nifer o feysydd gwyddonol a
diwylliannol ac fe ymgorfforodd celfyddyd natur
glasurol y Groegiaid a'r Rhufeiniaid. Mae holl
gyfansoddiad tudalen flaen The Fabric of The
Human Body yn enghraifft o'r sgiliau a'r
cywirdeb y gallai artistiaid bellach ddefnyddio
wrth ddarlunio testun. Gellid dadlau fod y lefel
hon o drwydded artist (gosod ffigurau mewn ystum
fel hyn ac sy'n aml yn or-fanwl) yn amharu ar
neges feddygol y math hwn o weithiau. Eto o
gymharu gyda Darluniadau Canoloesol mae gweithiau
celf y Dadeni o safon llawer mwy cywir wrth
bortreadu'r ffurf ddynol.
14Roedd mwnciod ac anifeiliaid eraill wedi cael eu
dyrannu ers canrifoedd a chanrifoedd mewn ymgais
i ddeall sut roedd y corff dynol yn gweithio.
Fodd bynnag, mae atonomeg anifail yn wahanol i
atonomeg dynol a gwnaethpwyd nifer o
gamgymeriadau.
Roedd nifer o feddygon yn yr hen amser wedi
dyrannu epaod yn y gred y byddai eu hanatonomeg
yr un fath ag un dynol. Darparodd epaod hwy
gyda'r cyfle i astudio rhannau gweithredol y
corff gan ei bod yn annerbyniol i ddyrannu corff
dynol oherwydd rhesymau crefyddol roedd Deddf
Eglwysig yn aml yn ei wahardd. Doedd ond rhai
eithriadau prin pan ganiateid dyraniad dynol. Un
lle a ganiataodd gynnal dyraniad yn agored am
beth amser oedd Alexandria yn Yr Aifft a
sefydlwyd yn 332 C.C.. Caniateid hyd yn oed
ddyraniad ar droseddwyr byw. Ond daeth yr agwedd
ddigyffro hon yn gynyddol brin erbyn amser yr
Ymerodraeth Rufeinig. Fodd bynnag, erbyn amser
Vesalius roedd Deddfau Eglwysig wedi eu llacio
rywfaint a chaniateid dyraniadau cyfyngedig.
Caniataodd hyn i ddarlun mwy manwl gywir a
chynhwysfawr i gael eu ffurfio am anatonomeg
dynol a ffisioleg ( sut mae'r corff yn
gweithio).
15Edrych ar The Tabulae Sex a The Fabric of the
Human BodyMewn ychydig mwy o fanylder. .
Anatonomeg Y Dadeni a Llinell Amser Llawfeddygaeth
O The Fabric of the Human Body
Ffeil ffeithiau Vesalius
Delwedd trwy garedigrwydd Llyfrgell Feddygol
Genedlaethol yr U.D.
16Delwedd trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol
yr U.D
Delwedd trwy garedigrwydd Llyfrgell Glasgow
(Casgliadau Arbennig)
Pam y byddai darluniadau fel hyn yn cael eu
cyfrif mor werthfawr gan fyfyrwyr meddygol yn
ystod ac ar ôl y Dadeni?
17Mae'r dudalen hon o The Tabulae Sex yn dangos un
o syniadau Galen. Mae'r iau / afu yn cael ei
ddangos fel organ pum llabedog fel y disgrifiodd
Galen hi. Mewn anifeiliaid byddai hyn yn gywir
ond dim ond dwy labed sydd gan iau / afu
dynol. Drwy arddangos syniadau Galen nesaf at ei
arsylwadau ei hun o fewn Tabulae Sex, roedd
Vesalius yn gallu tynnu sylw at rai o
gamgymeriadau Galen. Yn y cyfnod hwn ni
wrthododd syniadau Galen ar goedd ond fe allodd
gyflwyno damcaniaethau amgenach fel y gallai
anatomegwyr a meddygon feddwl amdanyn nhw.
Delwedd trwy garedigrwydd Llyfrgell Prifysgol
Glasgow. Adran Casgliadau Arbennig
18Yn y ddelwedd hon a gymerwyd o Tabulae Sex
gallwch weld techneg labelu a ddefnyddiwyd gan
Vesalius yn glir. Rhoddwyd llythyren i bob rhan
o'r sgerbwd sy'n cyfateb i'r disgrifiad o'r rhan
honno o'r corff yn y golofn ar y chwith i'r
diagram. Fe helpodd hyn anatomegwyr, meddygon a
myfyrwyr i ddelweddu a deall sut roedd pob rhan
o'r corff yn cysylltu â'i gilydd ac yn
cydweithio.
Delwedd trwy garedigrwydd Llyfrgell Glasgow
(Casgliadau Arbennig)
19Diolch i Vesalius a chyhoeddiadau megis The
Fabric of the Human Body a The Epitome (crynodeb
o The Fabric of the Human Body), daeth yn llawer
haws i fyfyrwyr anatomeg i gael golwg fanylach ac
mewn mwy o ddyfnder ar sut mae'r corff dynol yn
gweithio. Gallai myfyrwyr anatomeg atgyfnerthu
beth a welsant yn ystod dyraniad gyda darluniadau
manwl gywir o fewn y llyfrau oedd yn llyfrgell y
colegau. Gallent astudio tu mewn y corff hyd yn
oed os nad oeddent yn bresennol yn y dyraniad
er y byddai Vesalius ei hun yn honni na ellir
cyfnewid hynny gyda profiad o'i wneud yn go iawn.
Delwedd trwy garedigrwydd Llyfrgell Prifysgol
Glasgow. Adran Casgliadau Arbennig
20Roedd The Fabric of the Human Body yn cynnig
anatomeg dynol cyflawn, ac o wneud hynny, yn
herio rhai o safbwyntiau oedd wedi hen ennill eu
plwyf ynglyn â fframwaith y corff a swyddogaeth
rhai o'r prif rannau. Roedd y cyhoeddiad yn
caniatau ymchwiliad pellach o'r corff ac felly,
fodd y gallai astudiaeth o anatomeg ehangu a
datblygu. Prin fod damcaniaethau blaenorol wedi
eu herio na'u haddasu. Roedd y Dadeni yn hybu
ymchwilio, darganfod a herio hen syniadau. Roedd
Vesalius hefyd yn annog trafodaeth a dadl rhwng
anatomegwyr, meddygon a myfyrwyr. Fe honnai y
dylai myfyrwyr meddygol ymchwilio'r corff a
defnyddio eu llygaid eu hunain i ddisgrifio beth
a welant. Ni ddylent ddibynnu'n unig ar beth a
ddysgwyd ganddyn nhw neu beth a ddywedwyd wrthyn
nhw. Dyma'r unig ffordd y byddai meddygaeth yn
ehangu a datblygu.
Delwedd trwy garedigrwydd Llyfrgell Feddygaeth
Genedlaethol yr U.D.
21Felly, beth ddysgochchi?
Andreas Vesalius
Prif Syniadau
Gweithiau eraill ag eithro The F of the HB
Ffeithiau yn The Fabric of the Human Body
Cliciwch yma i argraffu map adolygu
22Cefndir
Astudiaethau
Dyddiad Geni.
Dyddiad Marw.
Ffabrica
Cyhoeddiadau
Vesalius
Prif syniadau - Pwysigrwydd
Cliciwch yma i argraffu fersiwn o'r sgrîn hon.
23Gwaith Estynedig ac Adolygu Am fwy o wybodaeth
am Vesalius a'i waith ymwelwch safwe Prifysgol
Glasgow. Yma fe welwch arddangosfa. Yma fe ddewch
o hyd i arddangosfa arbennig o'i waith.
http//special.lib.gla.ac.uk/anatomy/vesalius.htm
l Neu ymwelwch safwe Llyfrgell Feddygol
Genedlaethol yr Unol Dalaethau. Mae hon yn safwe
gynhwysfawr sydd hefyd yn darparu llawer o
wybodaeth am Vesalius a'i waith.
http//www.ihm.nlm.nih.gov http//www.nlm.nih.gov
/exhibition/historicalanatomies/vesalius_home.html
Er bod y sefydliadau hyn wedi cytuno'n
garedig y gallwn ddarparu cysylltau a defnyddio
rhai o'u delweddau ar eu safweoedd, nid ydynt yn
gyfrifol am y ffordd y defnyddiwyd y delweddau
hynny. Nid ydynt ychwaith yn gyfrifol am gynnwys
ysgrifenedig y ceir hyd iddo o fewn y cyflwyniad
hwn.