Rhoi Diwedd ar Gosb Gorfforol i Blant - PowerPoint PPT Presentation

1 / 41
About This Presentation
Title:

Rhoi Diwedd ar Gosb Gorfforol i Blant

Description:

Mae'n gwneud i chi deimlo'n drist' (merch 8) Mae'n llosgi eich pen l' (bachgen 5) ... gaeth ei ddisodli fel rhan o Ddeddf Plant 2004 a ddaeth i rym ar 15 Ionawr 1005 ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:36
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 42
Provided by: heidi2
Category:
Tags: ar15 | blant | diwedd | gorfforol | gosb | rhoi

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Rhoi Diwedd ar Gosb Gorfforol i Blant


1
Rhoi Diwedd ar Gosb Gorfforol i Blant
  • Sdim Curo Plant! Children are Unbeatable! Cymru

2
Beth Ddywed Plant
  • Maen gwneud i chi deimlon drist (merch 8)
  • Maen llosgi eich pen ôl (bachgen 5)
  • Maen ofnadwy .... poenus (merch 9)
  • Teimlo fel eich bod yn mynd i farw (merch 6)
  • Teimlon sâl (bachgen 6)
  • Tu mewn eich corff yn brifo (merch 6)
  • (Children Talk About Smacking, SC 2003)

3
Diben Y Cyflwyniad
  • Rhoi gwybodaeth am
  • fater cosbi plant yn gorfforol
  • y sefyllfa gyfreithiol gyfredol yn y Deyrnas
    Unedig
  • Hyrwyddo trafodaeth ac ateb cwestiynau
  • Trafod ffyrdd y medrech chi neuch sefydliad
    gefnogir neges DIM cosb gorfforol

4
'Sdim Curo Plant!Children Are Unbeatable!
  • Sefydlwyd yn 2000
  • Rhan o ymgyrch/cynghrair o unigolion a
    sefydliadau ar draws y DU
  • Ymgyrchu dros
  • Newid y gyfraith dileu amddiffyniad cosb
    resymol
  • Hyrwyddo dulliau cadarnhaol didrais o reoli
    ymddygiad plant dim cosb gorfforol

5
Y flaenoriaeth ir grwp yma
6
Cefnogwyr SCP!
  • 45 grwp/asiantaeth yn cynnwys
  • Coleg Brenhinol Paediatrig ac Iechyd Plant
  • Fforymau Diogelu Plant Gogledd a De Cymru
  • 4 Pwyllgor Ardal Amddiffyn Plant
  • 7 Grwp Cymorth i Fenywod a Cymorth i Fenywod
    Cymru
  • 400 o unigolion yn cynnwys
  • 27 Aelod Cynulliad
  • 12 Aelod Seneddol
  • Comisiynydd Plant

7
Y sefyllfa gyfreithiol bresennol
  • Plant ywr unig grwp o ddinasyddion Prydeinig y
    maen gyfreithiol eu bwrw
  • Mae cosb resymol yn amddiffyniad yn erbyn
    cyhuddiad o ymosod cyffredin
  • Mae cerydd rhesymol yn hen amddiffyniad
    cyfraith gyffredin yn dyddion ôl i 1860 a gaeth
    ei ddisodli fel rhan o Ddeddf Plant 2004 a ddaeth
    i rym ar 15 Ionawr 1005
  • Pleidleisiodd 10 o ASau Cymru ar gyfer y cymal (a
    drechwyd) a fyddai wedi rhoi amddiffyniad
    cyfartal i blant

8
Ymosodiad cyffredin ar gyfer plant yw
  • Bregusrwydd y dioddefwr, megis pan fydd y
    dioddefwr yn ... blentyn y mae oedolyn wedi
    ymosod arno (lle maer ymosodiad yn achosi unrhyw
    un or anafiadau y cyfeiriwyd atynt yn
    isbaragraff (vii) uchod, heblaw drwy gochnir
    croen, y cyhuddiad fel arfer fydd ymosodiad yn
    achosi gwir anaf corfforol, er fod yn rhaid ir
    erlynwyr gadw mewn cof fod y diffiniad o
    ymosodiad yn achosi gwir anaf corfforol yn golygu
    fod angen ir digwyddiad fod yn fwy na dros dro a
    dibwys)

9
Pam diwygior gyfraith? (1)
  • Achosion ar ôl Deddf Hawliau Dynol Hydref 2000
  • Tad yn hitio mab 4 oed ar draws ei gefn gyda
    gwregys 3 gwaith, gan achosi cleisio, am fethu
    medru ysgrifennu ei enw rhyddfarn cerydd
    rhesymol (2001)
  • Tad yn bwrw merch 12 ar ei hwyneb chwyddo ac
    anhawster symud ei gên. Fei gwnes er ei lles ei
    hun. Dwin gwybod sut i dorri pen dyn i ffwrdd
    ... Dim ond slap fechan oedd hi. Rhyddfarn.
    Dywedodd y barnwr fod cyfiawnhad llwyr dros ei
    weithredoedd (2001)

10
Pam diwygior gyfraith? (2)
  • Soniodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) am 12
    achos rhwng Ionawr 2005 a Chwefror 2007 lle
    defnyddiwyd amddiffyniad cosb rhesymol. Roedd y
    rhain fel arfer wedi arwain at ryddfarn neu ddod
    âr achos i ben.

11
Diben Diwygior Gyfraith
  • Yw rhoir un amddiffyniad i blant dan y gyfraith
    ag sydd gan oedolion
  • Nid gwneud troseddwyr o rieni
  • Yw diogelu plant
  • Yw hyrwyddo perthynas iach
  • Yw gostwng gwrthdaro o fewn ar tu allan ir
    cartref
  • Yn enghraifft o ddefnyddior gyfraith fel erfyn
    addysgol

12
Cosb Gorfforol diffiniad ymchwil
  • Cosb gorfforol yw defnyddio grym corfforol
    gydar bwriad o wneud ir plentyn brofi poen, ond
    dim anaf, i gywiro neu reoli ei ymddygiad. Maer
    diffiniad hwn yn sôn am y bwriad o wneud ir
    plentyn brofi poen am ddau reswm. Y rheswm
    cyntaf yw ei wahaniaethu oddi wrth weithredoedd
    sydd â dibenion eraill ond a all hefyd achosi
    poen, megis gosod eli gwrthseptig ar friw. Yr ail
    reswm yw gwneud y ffaith yn glir fod achosi poen
    yn fwriadol, ac nid yn sgil-effaith. (Strauss
    1996)

13
Ymchwil 1 Cysylltu Cosb Gorfforol a Cham-drin
Corfforol
  • Enghreifftiau o dystiolaeth gynyddol o gysylltiad
  • NSPCC 1980-89 roedd y rhan fwyaf o achosion o
    gam-driniaeth a erlynwyd wedi dechrau fel cosb
    gyffredin a aeth yn rhy bell
  • Astudiaeth mynychder Canada 1993 roedd 85 or
    holl achosion sylweddol o gamdriniaeth yn ymwneud
    â chosb
  • Astudiaeth Durrant yn Sweden 1999 ar ôl y
    gwaharddiad ar gost gorfforol rhieni, gostyngodd
    marwolaethau plant ar ddwylo rhieni o 1 y
    flwyddyn i 1 mewn saith mlynedd o gymharu gydag 1
    yr wythnos yn y Deyrnas Unedig

14
Ymchwil 2 Effeithiau cosb gorfforol
meta-ddadansoddiad o 88 astudiaeth
  • Natur fwy ymosodol fel plentyn ac oedolyn
  • Llai o allu ar gyfer cydymdeimlad
  • Llai o fewnoli agweddau foesol disgyblaeth
  • Mwy o debygolrwydd o ymddygiad gwrthgymdeithasol
    a throseddol fel oedolyn yn cynnwys cam-drin
    cymar a/neu blentyn
  • Tystiolaeth o effaith ar iechyd meddwl
  • Peth cynnydd mewn cydymffurfiaeth ar unwaith yn
    lleiaf rhwng 2-6 oed ac ymysg bechgyn
  • (E.Thompson Gershoff,2002)

15
Ymchwil 3 Canlyniadau eang smacio plant
  • Pum gwaith y gyfradd o ddiffyg cydymffurfiaeth
    ymysg plant bach
  • Cynnydd pedair gwaith mewn ymosodiadau difrifol
    ar frodyr a chwiorydd
  • Dwywaith y gyfradd o ymosodedd corfforol ymysg
    plant chwech oed yn erbyn plant eraill yn yr
    ysgol
  • Sylweddol fwy o rai 4 oed yn methu cyflawni y
    potensial gwybyddol y gwnaethant ei ddangos yn 1
    oed
  • Cynnydd o 84 yn y tebygolrwydd o ymddygiad
    treisgar yn y glasoed
  • (Amrywiol)

16
Ymchwil 4 Effeithiau cadarnhaol peidio
defnyddio neu roir gorau i gosb gorfforol
  • Lle mae ADHD ac ymosodedd yn cydfodoli, mae newid
    disgyblaeth dreisgar/gorfodol adref yn delio
    gydar anrhefn ymddygiad
  • (Paterson 2001)
  • Yr unig blant nad oedd eu hymddygiad ymosodol yn
    gwella drwy raglen arbennig oedd y rhai yr oedd
    eu mamaun defnyddio disgyblaeth dreisgar adref
  • (Webster Stratton 2001)

17
Cyd-Destun 1 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar
Hawliaur Plentyn
  • 191 o wledydd wedi cadarnhau. Cadarnhaodd y
    Deyrnas Unedig yn 1991
  • Erthygl 19 - Diogelu rhag trais corfforol ....
    camdriniaeth gan rieni, gwarcheidwaid, gofalwyr
  • Erthygl 24 Cymryd mesurau i ddiddymu arferion
    traddodiadol yn niweidiol i iechyd plant

18
Cyd-Destun 2 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar
Hawliaur Plentyn
  • Pwyllgor y CU ar Gonfensiwn Hawliaur Plentyn 2il
    Adroddiad ar y DU
  • fel mater o frys dileur amddiffyniad cosb
    resymol a gwahardd pob cosb gorfforol yn y teulu
  • hyrwyddo dulliau cadarnhaol, cyfranogol a didrais
    o ddisgyblaeth a pharch at hawl gyfartal plant i
    urddas dynol ac integriti corfforol
  • (Hydref 2002)

19
Cyd-Destun 2 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar
Hawliaur Plentyn (parhad)
  • Ar 2 Mehefin 2006 cyhoeddodd Pwyllgor y
    Cenhedloedd Unedig ar Hawl y Plentyn Sylw
    Cyffredinol ar Hawl y plentyn i ddiogeliad rhag
    cosb gorfforol a dulliau eraill creulon neu
    ddiraddiol o gosb. Pwysleisiodd yr Pwyllgor
    awdurdodol fod dileu cosb dreisgar a bychanol i
    blant, drwy ddiwygior gyfraith a mesurau eraill
    angenrheidiol, yn oblygiad digymwys ac
    uniongyrchol ar gyfer gwladwriaethau sydd wedi
    cadarnhaur Confensiwn ar Hawliaur Plentyn

20
Cyd-Destun 2 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar
Hawliaur Plentyn (parhad)
  • Roedd y sylw cyffredinol uchod gan y Cenhedloedd
    Unedig yn dilyn adroddiad Ysgrifennydd
    Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar Drais yn
    erbyn Plant yn galw ar bob gwlad i wahardd pob
    gosb gorfforol yn y teulu, yn yr ysgol a phobman
    arall erbyn 2009.

21
Cyd-Destun 3 Ewrop
  • Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol
  • Erthygl 3 - ni fydd neb yn gorfod dioddef
    triniaeth neu gosb annynnol neu ddiraddiol
  • 1998 Achos A v UK, barnu bod Llyworaeth y DU yn
    torri Erthygl 3
  • Siarter Cymdeithasol Ewropeaidd
  • Erthygl 17 yn galw am waharddiad yn y gyfraith yn
    erbyn unrhyw fath o drais yn erbyn plant

22
Cyd-Destun 4Gwledydd Eraill
  • Mae 23 o wledydd wedi diwygior gyfraith ar sail
    egwyddor er mwyn gwahardd smacio
  • Yr Almaen (2000) Awstria(1989) Bwlgaria
    (2000)
  • Chile (2007) Croatia(1999) Cyprus(1994),
  • Denmarc(1997) Ffindir (1983), Groeg
    (2006)
  • Gwlad yr Iâ(2003) Hwngari (2005) Yr
    Iseldiroedd (2007) Israel(2000)
    Iwcrân (2004) Latvia(1998)
  • Norwy(1987) Portiwgal
    Seland New.(2007) Romania (2004) Sbaen
    (2007) Sweden(1979),
  • Uruguay (2007) Venezuela (2007)
  • http//www.endcorporalpunishment.org

23
Sweden
  • 1979 Sweden oedd y wlad gyntaf i wahardd smacio
  • cefnogaeth y cyhoedd dros gosb gorfforol 53
    (1965) i 11 (1994)
  • dim cynnydd mewn erlyniadau
  • nifer is o blant mewn gofal
  • tystiolaeth fod rhieni yn gofyn am help ynghynt
  • dim cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • (A Generation Without Smacking - SC 2000)

24
Y Farn Gyhoeddus
  • 58 yn cefnogi newid y gyfraith os ydynt yn sicr
    na chaiff rhieni eu herlyn am smaciau dibwys
  • 97 yn dweud na ddylai rhieni gael caniatad i
    gosbi babanod (dan 18 mis oed) yn gorfforol
  • Mae rhieni a gafodd eu bwrw eu hunain yn fwy
    tebygol o ddefnyddio cosb gorfforol (70)
  • 79 o rhieni yn teimlon wael ar ôl bwrw eu
    plentyn
  • 40 o rieni yn credu nad yw smacion effeithiol
  • P. Cawson, Child Maltreatment in the Family,
    NSPCC, 2002.

25
Beth Dywed Plant?
  • Maen gwneud i chi deimlon drist (merch 8)
  • Maen llosgi eich pen ôl (bachgen 5)
  • Maen ofnadwy .... poenus (merch 9)
  • Teimlo fel eich bod yn mynd i farw (merch 6)
  • Teimlon sâl (bachgen 6)
  • Tu mewn eich corff yn brifo (merch 6)
  • (Children Talk About Smacking - SC 2003)

26
Agweddau Llywodraeth
  • San Steffan yn dweud NA i newid
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymrwymedig ers
    Hydref 02 i newid y gyfraith

27
Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Maes cyfrifoldeb heb ei ddatganoli
  • C C C yn ymrwymedig ers Hydref 02 i newid y
    gyfraith
  • Gwlad gyntaf y DU i gymryd safiad ar sail
    egwyddor ac yn gyson wrth gydnabod
  • hawliau plant (Confensiwn y CU ar Hawliaur
    Plentyn),
  • mater amddiffyn plant
  • rhan o agenda Cam-drin yn y Cartref
  • angen cefnogaeth rhieni
  • Cyflwyno tystiolaeth sawl gwaith i San Steffan
  • Awyddus i ganfod ffordd i hyrwyddo safiad y
    Cynulliad

28
Cymru - Camau (1)
  • Chwef 02 Rheoliadau Gwarchod Plant Cymru dim
    cosb gorfforol
  • Medi 02 Cytuno ar ddiffiniad estynedig o drais
    yn y cartref
  • Hydref 02 Datganiad Llywodraeth y Cynulliad yn
    erbyn cosb gorfforol i blant ac o blaid diwygior
    gyfraith
  • Hydref 02 ymlaen Llywodraeth y Cynulliad yn
    cyflwyno tystiolaeth i San Steffan, e.e.
    llythyrau i weinidogion, ymateb i ymgynghoriad
    Cyfiawnder a Diogelwch, ymateb i ymgynghoriad Pob
    Plentyn yn Cyfri
  • Ionawr 04 41 o Aelodau Cynulliad trawsbleidiol
    yn cefnogi newid y gyfraith (dadl ar y Mesur
    Plant)

29
Cymru - Camau (2)
  • Ionawr 04 ASau o Gymru ar daith canfod
    ffeithiau i Sweden
  • Drwy gydol 04 lobio helaeth yn San Steffan a
    Chymru i gynyddu cefnogaeth i sicrhau
    amddiffyniad cyfartal yn Neddf Plant 2004
  • Chwef 04 Cyhoeddi Gweithredur Hawliau
  • Hydref 04 Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol
    ar gyfer Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a
    Mamolaeth yng Nghymru
  • - Awgrymu dulliau addas ar gyfer rheoli
    ymddygiad plant syn cefnogi barn Llywodraeth
    Cynulliad Cymru fod cosbi plant yn gorfforol yn
    annerbyniol. Rhif 2. 48, t 28
  • Mynd ir afael â thrais yn y cartref
    Strategaeth Cymru 2005
  • Rhagfyr 05 Cynllun Gweithredu Rhianta

30
Cymru - Camau (3)
  • Rhianta Cadarnhaol Powys Dewisiadau heblaw
    Smacio 2003 04. Cynhadledd, arddangosfa,
    taflen, gwaith gyda rhieni
  • Gwrando ar Blant yn Sir Benfro PP Sir Benfro a CS
    Penfro Chwef 2004
  • Mae taro pobl yn anghywir ... Chwef 2005
  • Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc
    Seminar

31
Ymchwil Llansawel
  • Help wrth Law Mai 06
  • Wythnos o weithgareddau yn hyrwyddo dewisiadau
    heblaw smacio plant
  • Aml-asiantaeth, sefydlwyd gan SCP!
  • Gweithgareddau ar draws y gymuned
  • Ariannwyd gan Lywodraeth y Cynulliad
  • Adroddiad, papur gwybodaeth a chrynodeb
    gweithredol ar gael

32
Llyfryn Llywodraeth y Cynulliad
  • Mae llyfryn ar Rianta Cadarnhaol gydar neges
    Dim Smacio yn cael ei ddatblygu drwyr Fforwm
    Magu Blant
  • I fynd gyda O Amser Brecwast i Amser Gwely ac
    Ymddygiad dros ben llestri ...
  • http//www.plantyngnghymru.org.uk/areasofwork/pare
    nting/forparents/bookletsforparents/index.html

33
Pecyn Cymorth Help wrth Law
  • Pecyn cymorth i newid agweddau ac ymddygiad yn
    ymwneud â chosb gorfforol plant
  • Lansiwyd gan SCP! ym Mawrth 2008
  • Gall amrywiaeth eang o grwpiau ac unigolyn
    ddefnyddior deunyddiau
  • Pecyn cymorth ar y we gyda dolenni i adnoddau
    eraill a gweithgareddau a dalenni gwybodaeth ar y
    safle
  • www.pecyncymorthhelpwrthlaw.info/

34
Datblygiadau Eraill (1)
  • 2003 Cyd-Bwyllgor Seneddol ar Hawliau Dynol
  • Adroddiad ar Gonfensiwn y Deyrnas Unedig ar
    Hawliaur Plentyn
  • - Maer diffyg parch y mae amddiffyniad cosb
    resymol yn ei gyfleu i hawl plant i fod yn rhydd
    o ymosodiad corfforol yn annerbyniol ...
    ...daeth yr amser ir Llywodraeth i weithredu
    ...
  • 2003 Pwyllgor Iechyd Tyr Cyffredin
  • Adroddiad ar Adroddiad Ymchwil Victoria Climbié
  • - Anogwn y Llywodraeth i ... ddileu
    amddiffyniad cynyddol anomalaidd cerydd
    rhesymol.

35
Datblygiadau Eraill (2)
  • 2003 Papur Gwyn y Swyddfa Gartref ar Drais yn y
    Cartref (Diogelwch a Chyfiawnder) Anogir y
    Llywodraeth i
  • Ymestyn y diffiniad o drais yn y cartref i
    gynnwys plant
  • Gweithredu i ddileu amddiffyniad cosb resymol
  • Dywedodd SCP! Cymru Mae bodolaeth barhaus yr
    amddiffyniad cosb resymol yng nghyswllt
    ymosodiadau ar blant yn nam angeuol mewn unrhyw
    strategaeth gydlynol ac effeithlon i atal trais
    yn y cartref ac ymrwymiad y wladwriaeth i Dyna
    Ddigon. Os ywr Llywodraeth yn parhau i
    gymeradwyon gyhoeddus gyfrifoldeb rhieni a all
    gynnwys bwrw plant, yna maer neges am drais yn y
    cartref yn ddryslyd iawn Dyna Ddigon ond Dim i
    Blant

36
Adolygiad y Llywodraeth o Adran 58 Hydref 2007
  • Pan gyflwynwyd Adran 58, addawyd adolygiad ar ôl
    2 flynedd.
  • Gwahoddwyd ymatebion cynhaliodd y Llywodraeth
    hefyd arolygon o rieni a phlant.
  • Roedd cefnogaeth lethol i newid y gyfraith, ar
    wahân ir arolwg o rieni.
  • Dywedodd y llywodraeth y bydd yn cadwr gyfraith
    fel y mae ar hyn o bryd yn absenoldeb tystiolaeth
    nad ywn gweithion foddhaol.

37
Beth fedrwch chi ei wneud?
  • Dod yn weithgar beth ydych chi angen?
  • Cofrestru eich hunan
  • Cofrestru eich sefydliad
  • Cofrestru rhywun arall
  • Cofrestru sefydliad arall

38
Beth all eich sefydliad ei wneud?
  • Gweithio gydach grwp cleient
  • Gwneud y mater yn rhan or gwaith bob dydd
  • Hyfforddi eraill
  • Cyhoeddusrwydd ac ymgyfraniad y wasg
  • Rhoi, rhannu neu ddatblygu gwybodaeth
  • Tystiolaeth neu ymchwil
  • Darparu neu ddatblygu adnoddau

39
Mae Taro Plant yn Anghywir a Dylair Gyfraith
Ddweud Hynny!
  • Mae Cosb Gorfforol yn
  • torri hawliau dynol plant
  • achosi niwed ac anaf
  • aneffeithiol
  • drais/cam-drin yn y cartref
  • rhoir neges trechaf treised, gwannaf gweidded
  • ychwanegu at lefelau trais yn y gymdeithas

40
Cefnogwyr SCP!
  • Achub y Plant Cymru
  • Adnodd Pen-y-bont ar Ogwr ar Cylch ar gyfer
    Plant gydag Anableddau
  • Barnados Cymru
  • Cartref Bontnewydd
  • ChildSafe Cymru
  • Chwarae Cymru
  • Coleg Brenhinol Paediatreg a Lles Plant Cymru
  • Cwmni Your Theatr
  • Cychwyn Cadarn Conwy
  • Cychwyn Cadarn Pen-ybont ar Ogwr
  • Cymdeithas Genedlaethol Bws Chwarae
  • Cymdeithas Genedlaethol Gwarchod Plant Cymru
  • Cymdeithas Ieuenctid a Phlant Sir Gaerfyrddin
  • Cymdeithas Tai Hafan
  • Cymorth i Fenywod Aberconwy
  • Cymorth i Fenywod Aberteifi
  • Cymorth i Fenywod Bangor ar Cylch
  • Cymorth i Fenywod BAWSO
  • Cymorth i Fenywod Blaenau Ffestiniog
  • Gwasanaethau Chwarae Plant Caerdydd
  • Gwasanaeth Cenedlaethol Eiriolaeth Ieunctid
  • Gweithredu Cymunedol Myfyrwyr Abertawe
  • Law yn Llaw
  • Local Aid
  • Mudiad Ysgolion Meithrin
  • NCH Cymru
  • NCMA
  • NSPCC Cymru
  • Plant yng Nghymru
  • Pwyllgor Ardal Amddiffyn Plant Conwy
  • Pwyllgor Ardal Amddiffyn Plant Rhondda Cynon Taf
  • Pwyllgor Ardal Amddiffyn Sir Ddinbych
  • Pwyllgor Ardal Amddiffyn Plant Wrecsam
  • Pwyllgor Ardal Amddiffyn Plant Ynys Môn
  • SNAP Cymru
  • Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru
  • TACT Cymru
  • Uned Diogelwch Menywod Caerdydd

41
Gair Olaf ir Plant
  • Ni ddylai person mawr fwrw person bach dim unrhyw
    un byth
  • Amy 6 oed
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com