Title: Asbestos
1Asbestos
The worlds most wonderful mineral A.L.
Summers, Asbestos and the Asbestos Industry (1919)
2Amcanion
- Erbyn diwedd y ddarlith dylech
- ddeall y mathau gwahanol o asbestos au
strwythurau cemegol - wybod sut mae nodweddion cemegol unigryw asbestos
wedi arwain at ddefnydd eang mewn diwydiant - wybod pam maen berygl iechyd difrifol, a pha
glefydau a achosir ganddo - fod yn gyfarwydd â deddfwriaeth bresennol y DU ac
yn gwybod eich hawliau ach cyfrifoldebau
3Beth yw Asbestos?
- Paradocs Ffisegol mwn naturiol a chanddo
briodweddau ac ymddangosiad sidan - Yn digwydd yn 2/3 o gramen y Ddaear
- Yn cael ei ffurfio o dan y Ddaear ar wasgeddau a
thymereddau eithafol - Enw masnachol a roddir ar silicadau hydradol
ffibrog syn digwydd mewn ffurfiannau craig - Defnyddir y term asbestiffurf i ddisgrifio
llawer o fwnau ffibrog eraill, ar wahân i asbestos
4Tarddiad yr enw
- Tarddiad Hen Roegaidd yn golygu anniffoddadwy
yn llythrennol, ond hefyd yn gyfystyr â chalch
brwd - a dim
- sbennunai o sbes yn golygu diffodd
- Lladin mwn neu gem
- asbestos
5Mathau o Asbestos
- Amffibolau ywr grwp mwyaf niferus
- Crysotil, math o sarff-faen, ywr math o asbestos
a ddefnyddir amlaf (dros 90 or holl asbestos
diwydiannol)
6Strwythur Amffibolau
Wediu trefnu mewn cadwyn lle mae pob atom
silicon yn rhannu dau atom ocsigen (cadwyn
byrocsen)
Atom ocsigen (coch) wedii glymu i bedwar atom
silicon (glas) mewn strwythur tetrahedrol
7Strwythur Amffibolau (parhad)
Mae pob cadwyn wedii chlymu ochr yn ochr â
chadwyn arall, gan ffurfio cadwyn silicad ddwbl
uned strwythurol sylfaenol yr holl amffibolau
8Strwythur Sarff-faen
- Yn llai cymhleth nag amffibolau o ran cemeg, ond
yn fwy cymhleth o ran strwythur - Yn cynnwys
- Dalen detrahedrol (dychmygwch gadwyn silicad
ddwbl yr amffibolau wediu hehangu i greu dalen) - Dalen octahedrol (magnesiwm ywr atom sylfaenol)
- 2 ddalen wediu cysylltu drwy atomau ocsigen
brigol y dalen detrahedrol yn cymryd lle grwpiau
hydrocsyl yng ngwaelod y ddalen octahedrol - Mg6Si4O10(OH)8
9Strwythur Sarff-faen (parhad)
- Mae cyfuniad y ddwy ddalen yn achosi misffit y
mae iddo dri datrysiad strwythurol posibl, gan
arwain at tri math gwahanol o sarff-faen - Mae crysotil yn ffurfio pentyrrau silindrig crwn
syn ymddangos yn debyg i roliau o bapur wal
Maer edeifion gwyn yn y garreg hon yn edeifion o
ffibr crysotil
10Ffurfiant sarff-feini mewn craig
Craig letyol yn ffurfio magnesia-silica-dwr syn
crisialun ffibrau (1 i 40 mm o hyd)
Peridotit (craig letyol) - Fe, Mg Si
3MgO.2SiO2.2H2O
Maer llun hwn yn dangos natur sidanaidd ffibrau
crysotil
11Priodweddau Cemegol
- Yn inswleiddio (ynysu) yn dda iawn
- Mae pob ffibr fel sgrôl arwynebedd mawr
- Miloedd o ffibrolion i bob edefyn
- Cryfder tynnol uchel
- Arwynebedd mawr yn gwneud asbestos yn gryfach na
dur, fesul arwynebedd uned - Yn gwrthsefyll
- Tymereddau uchel
- Cemegolion cryf
- Micro-organeddau
- Dargludedd trydanol isel
12Tabl Priodweddau
13Defnydd Asbestos Hanes
- 4000 CC wedii ddefnyddio yng Ngroeg i wneud
wiciau canhwyllau - 3000 CC Pharoaid wediu lapio ar ôl marwolaeth
mewn lliain o asbestos - tua 850 AD cliriodd Siarlymaen fwrdd drwy losgi
lliain bwrdd a oedd yn cynnwys asbestos dim ond
yr asbestos oedd ar ôl wedir tân - tua 1350 Marco Polo yn ymweld â mwnglawdd yn
Tsieina - 1939 yn The Wizard of Oz, cyrhaeddodd y
Wicked Witch of the West ar goes ysgub asbestos
14Defnyddiau - Sment
- Crysotil yn cael ei ychwanegu at sment (110)
- Cost effeithiol yn pwyso dim ond 70 o gyfaint
cyfwerth - Yn anllosgadwy, yn gwrthsefyll craciau, a dim
ymyrraeth â thonnau radio - Sment yn cynrychioli 70 or holl ddefnydd
Blocdwr yn Wisconsin lle mae asbestos wedii
ddefnyddio
15Defnyddiau Papur a Ffelt
- Gellir ychwanegu ffibrau crysotil at bapur i roi
gwrthsafiad yn erbyn - lleithder
- llwydni a phydredd
- Pan fydd yn cael ei ychwanegu at ffelt neu bapur,
ceir isgarped inswleiddio effeithiol ar gyfer
llorio (amosit)
Papur wedii drwytho ag asbestos, yn cael ei
ddefnyddio fel defnydd inswleiddio
16Defnyddiau Cynhyrchion ffrithiant
- Cafodd ei ddefnyddion helaeth mewn padiau
breciau disg ac wynebynnau cydwyr - Gwnaethpwyd o liain asbestos wedii drwytho â
resin neu edafedd wediu dirwyn o amgylch gwifrau
metel - Priodweddau anllosgadwy yn ei wneud yn addas ar
gyfer ceir rasio a throswisgoedd raswyr
17Cloddio am Asbestos
Maer rhan fwyaf or cloddio asbestos graddfa
fawr wedi dod i ben, er y bu cloddfeydd drwyr byd
- 1712 sefydlu cloddfeydd Rwsiaidd
- 1805 darganfod crocidolit (glas) yn Orange (De
Affrica) - 1870 sefydlu ffatrïoedd drwyr byd i greu
cynhyrchion asbestos - 1907 darganfod amosit (brown) yn Transvaal (De
Affrica) - 1920 gwehyddu crysotil (gwyn) i mewn i liain ar
raddfa fawr
18Y Broses Gloddio
- Cloddio
- Defnyddiwyd mwngloddiau agored gan amlaf
- Prosesu
- Dim ond 5 or graig letyol syn cynnwys asbestos
felly mae angen ei wahanu oddi wrth y graig mewn
cyfres o falwyr - Maer rwbel yn cael ei sychu wedyn ai ddirgrynu
nes bydd ffibrau asbestos yn codi ir wyneb - Maent wedyn yn cael eu tynnu i ffwrdd gan bwmp
allsugno - Dosbarthiad
- Yn cael ei sgrinio yn tua 150 o raddau, ai bacedu
19Y Perygl Iechyd
- 1897 Meddyg o Vienna yn credu bod asbestos yn
achosi teneuder a phroblemau anadlu - 1898 Arolygwyr ym Mhrydain yn dweud bod
asbestos yn berygl iechyd - 1931 Rheoliadau diwydiannol yn cael eu sefydlu
am y tro cyntaf ym Mhrydain - 1960 Y perygl asbestos yn cael sylw mawr yn y
wasg, gan achosi pryder mawr a phanig
20Maint y Niwed
- Rhwng 1968 a 1998, bu farw 50,000 o bobl yn y DU
o glefydau a oedd yn gysylltiedig ag asbestos - Bob blwyddyn, mae 3000 o bobl yn y DU yn marw
oherwydd asbestos - Mae un ffynhonnell or Llywodraeth yn credu y
gallair gyfradd godi i 10,000 erbyn 2010 - Mae 25 or sawl sydd wedi marw wedi bod yn
weithwyr yn y diwydiant adeiladu
21Pam maen beryglus?
- Maer ffibrau mân iawn yn gallu cael eu hanadlu i
mewn yn hawdd fel llwch, ac fellyn gallu tyllur
ysgyfaint gan achosi clefyd ysgyfeiniol - Mae pathogenedd yn dibynnu ar ddimensiynaur
ffibrau (gt5 micron o hyd a theneuach nag 1.5
micron) - Felly, amffibolau ywr ffurf fwyaf niweidiol (yn
enwedig crocidolit) - Achosir tri phrif glefyd
- Niwmoconiosis (clefyd y llwch)
- Mesothelioma
- Canser yr ysgyfaint
22Niwmoconiosis
- Term cyffredinol a ddefnyddir ar gyfer niwed ir
ysgyfaint oherwydd anadlu i mewn gormod o lwch - Os oedd y llwch yn asbestos fei gelwir yn
asbestosis - Yn achosi creithio, a ffibrosis helaeth
- Symptomau anadl byr oherwydd diffyg ocsigen yn
cyrraedd y gwaed, a pheswch sych - 1924 y person cyntaf i farw o asbestosis, yn ôl
y cofnodion, oedd Nellie Kershaw. Roedd hin
gweithio i Turner Newall, DU.
23Ystadegau Niwmoconiosis
- Mae achosion budd-dal anabledd oherwydd
asbestosis wedi cynyddun raddol yn y DU ers yr
1980au - Cyrhaeddodd frig yn 2002 gyda 563 o achosion
- Gweithwyr yn y diwydiant adeiladu wediu
heffeithio fwyaf
24Mesothelioma
- Y mesotheliwm ywr meinwe mesodermaidd o amgylch
mur y selom - Gall asbestos achosi mesothelioma tyfiant
niweidiol ar y mesotheliwm - Cyfnod cêl o 15 i 40 mlynedd
- Amffibolau ywr mwyaf peryglus
25Ystadegau Mesothelioma
- Cyfnod cêl yn golygu bod nifer yr achosion wedi
cynyddu o 153 ym 1968 i 1843 yn 2001 - Rhagwelir y bydd yn dal i gynyddu ac yn cyrraedd
brig yn 2011 gyda thua 2000 o achosion
26Canser yr Ysgyfaint
- 50 i 80 achos bob blwyddyn o ganser yr ysgyfaint
syn gysylltiedig ag asbestos - Mae ysmygu yn gwaethygur niwed ir ysgyfaint yn
synergyddol - Mae ysmygwyr mewn perygl 4-gwaith yn fwy o gael
canser yr ysgyfaint os ydynt yn dod i gysylltiad
ag asbestos - Credir fod y crafiadau a achosir gan asbestos yn
ei gwneud hin haws i gemegolion carsinogenig
sigaréts fynd i mewn i feinweoedd yr ysgyfaint
27Bygythiad ir Cyhoedd
- Maer rhan fwyaf o bobl yn dod i gysylltiad ag
asbestos - Ar gyfartaledd, bydd unigolyn yn anadlu i mewn
tua 23 biliwn o ffibrau yn ystod ei oes - Yn beryglus ddim ond os bydd cryn dipyn yn dod yn
rhydd maer rhan fwyaf wedii selio mewn
matrics - Felly, mae angen ei symud yn ofalus a pheidio
âi dorrin ddarnau
28Ymwybyddiaeth yn Codi
- 1970 1972 Sweden Denmarc yn deddfu i
gyfyngur defnydd o asbestos - 1968 William Tait (peiriannydd ffôn) yn marw o
fesothelioma - 1976 Ysgrifennodd ei weddw, Nancy Tait, y
pamffled dylanwadol Asbestos Kills - 1975 Grwp gweithredu asbestos yn cael ei
ffurfio yn Hebden Bridge - 1982 Granada yn darlledu Alice a fight for
life
29Deddfwriaeth
- The Health Safety at Work Act (1974)
- The Asbestos (Licensing) Regulations 1983
- Rhaid i bawb sydd dan gontract i symud asbestos
gael trwydded gan yr HSE - The Asbestos (Prohibitions) Regulations 1992
- Gwahardd mewnforio a gwahardd defnyddio
defnyddiau hen neu newydd - The Construction Regulations Act 1994
- Iechyd a diogelwch yn elfen hollbwysig mewn
cynllunio
30Trefniant Iechyd a Diogelwch
Llywodraeth y DU
EMSU
LAU
Health Safety Executive (HSE)
Technical Divisions
Construction Division
Asbestos Licensing Unit (ALU)
Asbestos Policy Unit
Arolygwyr Gweithredol
31Cyfrifoldeb y Cyflogwr
- Mai 2004 bydd deddfwriaeth yn newid
- Bydd cyfrifoldebau newydd gan gyflogwyr
- Maen bwysig iawn darganfod a ydy adeiladaun
cynnwys defnyddiau syn cynnwys asbestos
(asbestos containing materials neu ACM) - cyn 1985 defnyddiwyd crocidolit ac amosit
- Hyd at 1999 crysotil
- Edrych ar gynlluniau adeiladu, archwiliwch y tu
mewn ar tu allan, ymgynghorwch â phenseiri
a.y.y.b. - Cymryd mai asbestos ywr defnydd, nes bydd
gennych dystiolaeth i brofir gwrthwyneb
32Cyfrifoldeb (parhad)
- Arolygu a Samplu
- Gall fod achos cyflogi arbenigwr i samplu
defnyddiaur adeilad ar gyfer asbestos - Rhaid iddynt fod yn gyfarwydd ag arweiniad yr HSE
(MDHS 100) - Gwnewch yn siwr bod ganddynt yswiriant
atebolrwydd addas - Mae gan yr United Kingdom Accreditation Service
(UKAS) gynllun achrediad asbestos
33Cyfrifoldeb (parhad)
- Asesu Cyflwr ACMs
- ACMs sydd wediu difrodi ywr perygl mwyaf, ac
mae rhaid asesu eu cyflwr - Cofnodi
- Mae angen paratoi cynllun i ddangos lle maer
asbestos yn yr adeilad, a chadw cofnod och
arolwg - Dylai hwn gael ei ddiweddarun barhaol, gydag
arolygiadau rheolaidd o unrhyw ACMs i asesu
unrhyw ddifrod
34Cyfrifoldeb (parhad)
- Asesur Perygl
- Ym mha gyflwr maer asbestos?
- Oes llawer o bobl yn gweithion agos at yr
asbestos? - Ydyr asbestos yn debygol o gael ei aflonyddu?
- a). Gweithredu Cyflwr da
- Os ywr asbestos mewn cyflwr da maen well ei
adael yn llonydd - Maen bwysig iawn ei labelu a gwneud yn siwr bod
yr holl weithwyr yn deall lle mae e, ac yn deall
y peryglon oi aflonyddu
35Cyfrifoldeb (parhad)
- b). Gweithredu Cyflwr gwael
- Atgyweirio, selio, amgáu neu symud
- Symud ywr opsiwn mwyaf peryglus, ond mae angen
ei wneud os ywr asbestos mewn cyflwr gwael iawn - Dim ond ymgymerwyr sydd wediu trwyddedu gan yr
HSE y dylai gael eu defnyddio - DS Yn achos ysgolion, bydd y daliwr dyletswydd
yn amrywio
36Iawndal Cefndir
- Daeth yr Asbestos Scheme âr diwydiant o fewn y
Workmens Compensation Act (1931) - 1943 Niwmoconiosis yn cael ei gynnwys
- 1948 Yr Industrial Injury Fund, cronfa yr
oedd cyflogwyr a gweithwyr yn cyfrannu ati, yn
darparu budd-daliadau gwladol i gymryd lle
taliadaur cwmnïau - Dim yn newid tan 1969 pan basiwyd deddfau newydd
i daclor defnydd o asbestos
37Iawndal
- 1972 Cafodd y gwneuthurwr asbestos Fibreboard
ei erlyn gan weddw Clarence Borel am 79,000 - 600,000 o hawliadau ers hynny
- 300 miliwn yn y DU a 200 biliwn yn fyd-eang
- 67 o gwmnïau wediu gyrru ir wal
- Yr achos hawliadau yswiriant mwyaf mewn hanes
38Iawndal (parhad)
- Mae nifer enfawr yr hawliadau wedi achosi i lawer
o gwmnïau yswiriant fethu - Mae yswirwyr UDA wedi cynyddu cronfeydd o 10
biliwn - Medi 2003 Bu raid i Royal Sun Alliance
ddosrannu 800 miliwn ou cyfranddaliadau
cyfalafiad o 960 er mwyn talu hawliadau - Yn UDA, Senator Frist (TN) yn arwain ymgyrch i
roi diwedd ar achosion cyfreithiol drwy gychwyn
cronfa 114 biliwn yn cael ei gwrthod gan
gyfreithwyr ac undebau
39Diwylliant Iawndal
Our tort system is completely out of control -
Hank Greenberg, Chief Executive AIG, 2003
- Hawliadaun cael eu gwneud gan bobl nad ydynt
wedi cael unrhyw afiechyd - Wedi gweithio mewn diwydiannau lle defnyddiwyd
asbestos neu wedi cerdded i mewn i adeilad oedd
yn cynnwys asbestos - Cwmnïau yswiriant y DU ar hyn o bryd yn talu dim
ond y sawl sydd â symptomau
Need to save money for genuinely hurt
people - David Williams, Head of Claims Axa, 2003
40Casgliadau
- Mae asbestos yn fwn unigryw a chanddo briodweddau
sydd wedi arwain at ei ddefnydd helaeth mewn
adeiladu modern - Mae asbestos yn beryglus iawn ac fe ddylid ei
drin mewn difrif a chyda gofal mawr - Maer deddfau newydd yn golygu bod gan gyflogwyr
gyfrifoldeb mwy i gofnodi unrhyw asbestos syn
bresennol yn y gweithle ac i leihaur perygl
gymaint â phosibl
41Cyfeiriadau Dethol
- Asbestos Canadian Government Publication (Hugh
Owen TA 455.A6.A7.) - Cyflwyniad cyffredinol da iawn
- Magic Mineral to Killer Dust, G. Tweedale (Hugh
Owen RC 965 A7 T9) - Astudiaeth or cwmni asbestos mawr Turner
Newall - Government website www.gov.uk
- Yn dangos deddfwriaeth bresennol
- Jstor Synergy
- Mae teipio asbestos yn rhoi ystod eang o
gyfnodolion meddygol a chemegol
42Cyfeiriadau Lluniau
Sleid 9 - Crysotil mewn craig letyol
http//wshiivx.med.uoeh- Sleid 10 Llun o
ffibrau, o wefan bersonol myfyriwr o Youngstown
State University http//cc.ysu.edu/eohs/bulletin
s/images/thumbs/thumbnails.htm Sleid 14 Llun o
wefan University of Milwaukee http//www.uwm.edu
Sleid 15 Llun o ynysydd papur, University of
Milwaukee http//www.uwm.edu/Dept/EHSRM/
ASB/acmimages.html Sleid 16 Llun o pad brêc
(heb asbestos) o seibrake
http//www.seibrake.com/products.html Cefndir
rhan o sleid 10 wedii haddasun ddigidol