Title: Brenin Midas a
1Brenin Midas ai gyffyrddiad Aur.
2Roedd Brenin Midas yn ddyn ffol a gwancus. Roedd
am fod y dyn mwyaf cyfoethog yn y byd.
3Un diwrnod daeth cythraul bychan i balas Brenin
Midas. Adnabyddodd Midas ef fel Silenus, ffrind y
duw Dionysus.
4Yn lle anfon Silenus i ffwrdd fe wnaeth y brenin
ei wahodd i aros gydag ef.
5Roedd y duw Dionysus yn hapus fod Midas wedi
helpu ei ffrind ac fe gynigiodd i Midas gael
dewis un dymuniad.
6Dymuniad y brenin Midas oedd y byddai popeth yr
oedd yn ei gyffwrdd yn troi yn aur. Wedyn fe
fyddai y person mwyaf cyfoethog yn y byd.
7Cadwodd y duw ei addewid, ac yn wir roedd popeth
roedd Midas yn ei gyffwrdd yn troi yn aur. Fe
aeth o gwmpas y palas yn defnyddio ei bwerau.
8Ond fe wnaeth dymuniad Midas droi yn ei erbyn. Fe
ffeindiodd ei fod yn methu yfed na bwyta oherwydd
roedd y bwyd ar gwin yr oedd yn ei gyffwrdd yn
troi yn aur!
9Fe erfynniodd Midas i Dionysus i stopio yr hyn
oedd yn digwydd. Dywedodd Dionysus wrth Midas sut
y gallai gael gwared ai bwerau newydd.
10Fe olchodd Midas ei gyffyrddiad aur i ffwrdd yn
afon Pactolus. Hyd yn oed yn awr mae pridd ar
ochraur afon yma yn lliw aur.