CYMALAU - PowerPoint PPT Presentation

About This Presentation
Title:

CYMALAU

Description:

CYMALAU Beth yw cymalau? Rhannau o frawddeg yw CYMALAU Fel arfer, mae un ferf i bob cymal Beth yw trefn brawddeg syml yn y Gymraeg? BERF + GODDRYCH + GWRTHRYCH ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:48
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 31
Provided by: jone1189
Category:
Tags: cymalau

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: CYMALAU


1
CYMALAU
2
Beth yw cymalau?
  • Rhannau o frawddeg yw CYMALAU
  • Fel arfer, mae un ferf i bob cymal
  • Beth yw trefn brawddeg syml yn y Gymraeg?
  • BERF GODDRYCH GWRTHRYCH
  • Gwelodd Sian blismon

3
  • BERF ywr weithred
  • Gwelodd
  • GODDRYCH ywr un syn gwneud y weithred
  • Sian
  • GWRTHRYCH syn ateb y cwestiwn beth? ir ferf
  • blismon
  • Sylwer GWRTHRYCH BERF BERSONOL YN TREIGLON
    FEDDAL

4
Beth yw enwaur cymalau?
  • Mae CYMALAU yn cael eu henwi yn ôl y gwaith maen
    nhwn ei wneud
  • CYMAL PERTHYNOL/ANSODDIERIOL
  • ei waith disgrifior enw yn y prif gymal
  • CYMAL ENWOL
  • Maen gwneud yr un gwaith â gwrthrych y ferf,
    maen gweithredu fel gwrthrych ir ferf yn y prif
    gymal

5
  • CYMAL ADFERFOL
  • Maen gwneud yr un gwaith ag adferf. Fel arfer,
    maen ychwanegu ein gwybodaeth am y ferf.
  • Gall hefyd gael ei ddefnyddio i ddangos amod

6
CYMAL PERTHYNOL
  • Yn aml, dechreuir CYMAL PERTHYNOL gyda rhagenw
    perthynol
  • Cadarnhaol a, y, yr, r
  • Negyddol na, nac
  • Roedd y bachgen a welais ar y teledu neithiwr,
    yn canu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis
    Awst.
  • Maer ferch na lwyddodd i basio ei phrawf gyrru
    am y pumed tro, wedi rhoir ffidil yn y to.

7
Sut i greu brawddeg?
  • Y gyfrinach yw creu prif gymal syml, ac yna rhoi
    mwy o wybodaeth am y goddrych yn y prif gymal,
    gan ddefnyddio rhagenw perthynol i gychwyn y
    cymal.
  • Dymar ferch a waharddwyd or ysgol yr wythnos
    diwethaf.
  • Roedd y bachgen na lwyddodd i gael lle yng
    Ngholeg Rhydychen yn hynod o siomedig.

8
Beth am greu?
  • a welodd
  • na chlywom
  • a ysgrifennwyd
  • na lwyddodd
  • a fwytodd

9
CYMAL ENWOL
  • Yn aml, dechreuir CYMAL ENWOL gyda ffurf ar y
    ferf bod
  • Maen gweithredu fel gwrthrych y ferf yn y prif
    gymal h.y. maen ateb beth? ir ferf

10
Sut i greu brawddeg?
  • Y gyfrinach yw creu prif gymal syml, ac yna ateb
    beth? ir ferf yn y prif gymal gan ddefnyddio
    ffurf ar bod.
  • Clywodd Sion ei fod wedi pasior arholiad

BETH?
Prif Gymal
Cymal Enwol
11
CYMAL ENWOL - amser presennol
  • Er mwyn creu Cymal Enwol yn yr amser presennol,
    mae angen defnyddio BOD
  • e.e. Rydw in meddwl bod y gwaith yn anodd
  • Nid oes angen MAE neu ROEDD gyda bod

12
Ffurfiau BOD
  • Ar adegau mae angen rhagenw dibynnol blaen o
    flaen bod. Rhaid defnyddior ffurf gywir
  • fy mod i ein bod ni
  • dy fod di eich bod chi
  • ei fod o eu bod nhw
  • ei bod hi
  • Sylwer ar y treigladau

13
Negyddu CYMAL ENWOL
  • Wrth negyddu cymal enwol, maen rhaid ir negydd
    ddod o flaen y ferf
  • bod fi ddim X nad ydw i ?
  • bod ti ddim X nad wyt ti ?
  • bod o ddim X nad ydy o ?
  • bod hi ddim X nad ydy hi ?
  • bod ni ddim X nad ydym ni ?
  • bod chi ddim X nad ydych chi ?
  • bod nhw ddim X nad ydyn nhw ?

14
Beth am greu?
  • Lluniwch frawddegau yn cynnwys CYMAL ENWOL gan
    ddefnyddior berfau canlynol
  • dywedodd
  • clywais
  • meddyliodd
  • penderfynodd
  • awgrymais

15
Amserau eraill y ferf
  • Gydar DYFODOL neur AMODOL rydyn nin defnyddio
  • y berf
  • na berf
  • Clywodd Sion y bydd yn cael lle yn y coleg ym
    mis Medi
  • Credaf na fydd hyn yn gweithio

16
mai
  • Defnyddir mai mewn cymalau enwol yn hytrach
    na bod pan mae angen rhoi pwyslais ar yr enw
    neu air cyntaf yr is-gymal e.e.
  • Credaf mai hwn ywr ateb cywir.
  • Mae on bendant mai dymar ffordd ymlaen.

17
negyddol
  • Defnyddir nad wrth ffurfio cymal negyddol nid
    mai ddim
  • Credaf nad hwn ywr ateb cywir
  • Mae on bendant nad dymar ffordd ymlaen.

18
Beth am greu?
  • Lluniwch frawddegau yn dangos ystyr a defnydd y
    canlynol
  • na fydd
  • mai
  • nad
  • fy mod i
  • y byddaf
  • Cofiwch roi prif gymal syml ar gychwyn y frawddeg

19
CYMAL ADFERFOL
  • Mae CYMAL ADFERFOL yn gwneud yr un gwaith ag
    adferf.
  • Fel arfer, maen ychwanegu at ein gwybodaeth am y
    ferf.
  • Gall gael ei ddefnyddio i ddangos amod hefyd

20
  • Roedd y bachgen yn gweithio yn dda
  • Roedd y bachgen yn gweithio fel pe bai ar frys
  • Sylwer mai dweud mwy am y ferf a wneir yma

ADFERF
CYMAL ADFERFOL
21
Gwahaniaethu rhwng a ac y
  • Maer rhagenw perthynol a yn cymryd lle enw ac
    ymuno dwy frawddeg
  • e.e. Dyma Sion. Achubodd Sion yr eneth.
  • Yn hytrach nag ail-adrodd Sion, gallwn
    ddefnyddior rhagenw perthynol i ymunor ddwy
    frawddeg
  • e.e. Dyma Sion a achubodd yr eneth

22
  • Gwelwn fod yr a yn gwneud yn lle yr enw Sion,
    maen cyfeirion ôl at Sion.
  • Mae Sion fellyn RHAGFLAENYDD ir rhagenw
    perthynol a
  • Dyma Sion a achubodd yr eneth or afon
  • Hwn ywr dyn a saethodd y ci defaid
  • Cai a losgodd ei wallt yn fflam y gannwyll

23
  • SYLWER
  • Maen beth doeth cadwr rhagenw perthynol yn
    agos at ei ragflaenydd
  • e.e. Dymar ferch a welais neithiwr
  • Cafodd y plant a dorrodd y ffenestr ffrae gan
    yr athro

24
Y YR a R
  • Defnyddir y rhagenw perthynol Y, YR neu R pan
    ddylynir y rhagenw perthynol gan ragenw personol
    neu arddodiad personol
  • Rhagenw personol fy, dy, ei, ein, eich, eu
  • Arddodiad personol arddodiad rhedadwy
  • e.e. arno fo, amdanyn nhw, iddi hi, wrthon ni,
    ganddyn nhw, ata i a.y.y.b.

25
Enghreifftiau
  • Dymar dyn y gwelais ei gar yn yr afon
  • Hwn ywr car yr eisteddodd yr eliffant arno
  • Hon ywr ferch y gwelais ei brawd yn y dref

26
Cywiro brawddegau
  • Dymar man a welais ei ysbryd neithiwr.
  • a welais gt y gwelais
  • Angen y rhagenw perthynol y gan fod rhagenw
    personol yn dilyn y rhagenw perthynol

27
Dymar dyn yr enillodd y fedal arian.
  • yr enillodd gt a enillodd
  • Angen y rhagenw perthynol a gan nad oes
    rhagenw personol nac arddodiad rhedadwy yn dilyn
    y rhagenw perthynol

28
Derbyniais y feirniadaeth bod fi ddim yn
gweithion ddigon caled.
  • bod fi ddim gt nad ydw i
  • Rhaid ir negydd ddod o flaen y ferf wrth
    negyddu cymal

29
Fe adwaenon nhw ei gilydd yn yr orsaf er eu bod
nhw ddim wedi cwrdd cyn hynny.
  • eu bod nhw ddim gt nad oedden nhw
  • Rhaid ir negydd ddod o flaen y ferf wrth
    negyddu cymal

30
Dw in sicr mae on fy adnabod
  • mae on gt ei fod on
  • Angen defnyddio bod wrth greu cymal enwol a
    rhoi rhagenw dibynnol oi flaen
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com