Ar aelwyd y teulu Mahloane - PowerPoint PPT Presentation

1 / 4
About This Presentation
Title:

Ar aelwyd y teulu Mahloane

Description:

Ac yn disgwyl amdano tu allan i'r ty, roedd Mrs Mahloane, prifathrawes Ysgol ... O flaen yr adeiladau mae llain o dir ble mae ffa, moron, bitrwt a bresych yn tyfu. ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:95
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 5
Provided by: BEC589
Category:
Tags: aelwyd | mahloane | moron | teulu

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Ar aelwyd y teulu Mahloane


1
Ar aelwyd y teulu Mahloane
Pen y daith or diwedd! Ac yn disgwyl amdano tu
allan ir ty, roedd Mrs Mahloane, prifathrawes
Ysgol Maliele, Mr Mahloane yn ei blanced
draddodiadol, a chwech o blant, pob un yn wenog
ac yn groesawgar.
Yn ystod y dyddiau nesaf daeth Mr Pritchard iw
hadnabod yn dda ac i deimlo yn gwbl gartrefol ar
aelwyd ei deulu newydd yn Affrica.
2
Linkeng (28 oed) ai mab blwydd oed, Hlalele. Mae
stori ddiddorol tu ôl i enw Linkeng.
Yr efeilliaid Khothalang a Nteboheleng (16 oed)
Yn ogystal âu pum plentyn eu hunain mae Mr a Mrs
Mahloane yn rhoi cartref hefyd i ddau blentyn
arall
Rethabile (17 oed)
Tsepiso (10 oed)
3
Y ddwy o deuluoedd tlawd, mae Mr a Mrs Mahloane
yn gofalu amdanynt nes eu bod wedi gorffen eu
haddysg. Maer ddwy yn amlwg yn hapus iawn yn eu
cartref newydd ac wediu derbyn fel aelodau llawn
or teulu. Nid un ty yw cartref y teulu, ond tri
- dau rondhabole ac un heisi. Mae Mr a Mrs
Maholane yn cysgu yn un rondhabole ar bechgyn,
Mohahli a Khothalang yn y llall. Yr heisi ywr
adeilad mwyaf, yno maer genethod yn cysgu a
choginio. Mae yna drydydd rondhabole sydd yn cael
ei ddefnyddio fel storfa ar gyfer yr india corn.
Roedd Mr Pritchard yn cysgu yn y rondhabole yn y
canol.
4
O flaen yr adeiladau mae llain o dir ble mae ffa,
moron, bitrwt a bresych yn tyfu. Mae gan Mr
Mahloane dir tu allan ir pentref hefyd lle maen
tyfu india corn a sorgwm, a thir yn y mynyddoedd
ble maer defaid, gwartheg ar ceffylau yn
pori. Fel pawb arall yn y pentref maer Mahloanes
wedi adeiladu ty bach o ddarnau o sinc yn hofran
uwchben twll mawr.
Gan nad oes trydan yn y ty bwytir swper yng
ngolau cannwyll. Ar ôl clirior llestri bydd y
plant yn hawlior bwrdd ar gyfer gwneud eu gwaith
cartref. Unwaith y bydd hwnnw wedii gwblhau bydd
swn canu a dawnsio yn llenwir ty. Lle braf iawn
ydy ty heb deledu! Yn amlach na dim bydd Mr
Mahloane wedi mynd iw wely yn syth ar ôl swper.
Yn wir maer pentref i gyd wedi tawelu erbyn wyth
or gloch.
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com