PWRPAS EGLWYS SESIWN 3 - PowerPoint PPT Presentation

1 / 48
About This Presentation
Title:

PWRPAS EGLWYS SESIWN 3

Description:

Buom yn ystyried bywyd a gwaith, Marw ac Atgyfodiad Iesu Grist: ... pobl trin arian a phobl trin adeiladau. Sylwn. Dim son am adeilad nac adeiladau. ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:202
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 49
Provided by: ele88
Category:
Tags: eglwys | pwrpas | sesiwn | trin

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: PWRPAS EGLWYS SESIWN 3


1
PWRPAS EGLWYSSESIWN 3
  • Pwrpas
  • Wedi clywed galwad yr Arglwydd Iesu Grist i fyw
    bywyd ei deyrnas a thystio iddi fel pererinion y
    deyrnas heddiw down i ystyried yr adnoddau syn
    cynnal y pererinion yn eu gwaith, ond yn gyntaf
    ...

2
  • ADDOLWN
  • Emyn 29 Esgyn gydar lluoedd
  • Darllen Colosiaid 312-17
  • Gweddi Arglwydd,
  • Buom yn ystyried bywyd a gwaith,
  • Marw ac Atgyfodiad Iesu Grist
  • Mae ei brydferthwch wedi ein gwefreiddio.
  • Clywsom dy alwad a dymunwn barhau i ddilyn,
  • A dal ati fel pererinion dy deyrnas.
  • Ond blinwn yn hawdd gan gymaint y dasg mewn
    dyddiau blin.
  • Y mae angen egni a chynhaliaeth arnom.
  • Arglwydd,
  • Dymunwn
  • i brydferthwch Iesu ein prydferthu ni
  • i egni Iesu ein hegnio ni
  • i gwmni Iesu ein ysgogi ni

3
Cefndir
  • Y Duw Byw yw Duw y Beibl
  • Ef ywr Crëwr ar cynhaliwr
  • Ef syn gweithredu yn hanes ei bobl ai fyd
  • Maen nerthol a phwerus
  • Maen rhyfeddol ac arswydus

4
  • Mae ei air yn egniol
  • Abraham
  • Amos
  • Eseia
  • Daniel
  • Nid arweinwyr cenedl yn unig.

5
  • Egni y Duw byw ym mywyd a gwaith
  • Iesu o Nasareth
  • Ei eiriau
  • Ei weithredoedd
  • Ei ddysgeidiaeth
  • Ei farw
  • Ei atgyfodiad
  • Y cyfan efoi gilydd syn rhoi ystyr ir
    digwyddiad o
  • Iesu o Nasareth

6
  • Galwodd, hyfforddodd, paratôdd, ac egniodd ei
    ddisgyblion, felly ninnau
  • Pwer cyffrous ac aflonydd y Duw Byw a roir in
    hegnio, ein galluogi, ein sbarduno an cynnal.

7
  • Ni ellir cyfyngu arno
  • Â on blaen
  • Yn ei waith y cyfarfyddwn ef.
  • Maen mynd och blaen i Galilea ac yno y
    gwelwch ef. (Mathew 287)

8
  • Am hynny cofiwn
  • Nid ni biaur Eglwys nai Chenhadaeth.
  • Y mae Duw wrth ei waith ymhob man.
  • Ni allwn fynd a Duw yng Nghrist i unman.
  • Sut y cawn ein meddiannu gan ei adnoddau?

9
TAFLEN WAITH 14
  • Myfi ywr wir winwydden, am Tad ywr
    gwinllannwr. Y mae ef yn torri i ffwrdd bob
    cangen ynof fi nad ywn dwyn ffrwyth, ac yn
    glanhau pob un sydd yn dwyn ffrwyth, er mwyn iddi
    ddwyn mwy o ffrwyth. Yr ydych chwi eisoes yn lân
    trwyr gair yr wyf wedi ei lefaru wrthych.
    Arhoswch ynof fi, a minnau ynoch chwi. Ni all y
    gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun, heb iddi aros
    yn y winwydden ac fellyn union ni allwch
    chwithau heb i chwi aros ynof fi. Myfi ywr
    winwydden chwi ywr canghennau. Y maer hwn
    sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo ef, yn dwyn
    llawer o ffrwyth, oherwydd ar wahân i mi ni
    allwch wneud dim. Os na fydd dyn yn aros ynof
    fi, caiff ei daflu i ffwrdd fel y gangen
    ddiffrwyth, ac fe wywa dymar canghennau a
    gesglir, iw taflu ir tân au llosgi. Os
    arhoswch ynof fi, ac os erys fy ngeiriau ynoch
    chwi, gofynnwch am beth a fynnwch, ac fei
    rhoddir ichwi. Dyma sut y gogoneddir fy Nhad
    trwy i chwi ddwyn llawer o ffrwyth a bod yn
    ddisgyblion i mi. Fel y maer Tad wedi fy ngharu
    i, yr wyf finnau wedi eich caru chwi. Arhoswch
    yn fy nghariad i. Os cadwch fy ngorchmynion fe
    arhoswch yn fy nghariad, yn union fel yr wyf fi
    wedi cadw gorchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros
    yn ei gariad ef.
  • Ioan 151-10

10
  • Myfyriwch ar
  • Iesu y wir winwydden
  • Rôl y gwinllannwr, y winwydden ar canghennau ac
    felly cyfrinach y winwydden
  • Beth yw pwrpas y winwydden
  • I bwy?

11
  • Iesu ai ddisgyblion yw gwinwydden newydd Duw
    Cymuned newydd cariad egni cariad Duw yn Iesu
    Grist yw ei grym.
  • Rhoi ei hun mewn cariad i Dduw ac ir byd yw ei
    bywyd.

12
  • Cyfrinach y winwydden, yw uniad hanfodol cangen a
    boncyff, felly hefyd yr Eglwys â Christ. Llifar
    maeth a phan beidia, gwywar disgyblion.

13
  • Pwrpas yr eglwys fel y winwydden yw dwyn ffrwyth
    ffrwythau cariad maddeuant, cymod, cyfiawnder,
    tangnefedd, llawenydd. Ei hadnodd mewnol syn
    peri ffrwyth yw Cariad Duw yng Nghrist syn llifo
    iddi.

14
  • Maer eglwys yn bod er mwyn y byd fel y blasor
    byd ei ffrwythau, cael ei gynnal ganddynt a dyheu
    amdanynt.

15
  • Cofiwn ddarluniau eraill tebyg
  • halen Mathew 513
  • goleuni Mathew 514
  • lefain Mathew 1333

16
  • Mor bwysig yw gadael i egnir Crist ein
  • meddiannu
  • - Gweinidogaeth y Gair
  • - Y Sacramentau
  • - Gweddi
  • - Corff Crist

17
  • Y GAIR
  • Meddai Iesu
  • Rydych chwi yn lân drwyr gair yr wyf wedi ei
  • lefaru wrthych
  • Ystyriwch fel mae geiriau Crist yn glanhau
  • - ein meddyliau
  • - ein teimladau
  • - ein dychymyg
  • - ein bwriadau
  • - ein gweithredu

18
  • Gwerthfawrogwn
  • bregethur gair
  • agor yr ysgrythurau

19
  • Boed i eiriau Crist lenwin meddyliau
  • i ddarluniau o Grist danion dychymyg
  • i hanesion am Grist fwydon hewyllys
  • i ddyheadau Crist lenwin calon
  • Yna bydd maeth ei gariad
  • yn ffurfio ynom weledigaeth yn
    ysgogi ein byw
  • tywallt ynom egni bywiol

20
  • Y SACRAMENTAU
  • Drwyr Bedydd down i berthyn i Eglwys Dduw. Creu
    Cymundeb dwfn â Duw yng Nghrist ac ân gilydd
    wnar Cymun Sanctaidd.

21
  • Ffrwyth y ddaear ywr bara a dorrir, yn arwyddor
    corff a ddrylliwyd.
  • Ffrwyth y winwydden yn arwyddor bywyd syn
    llifo.

22
  • Torri bara, yfed y cwpan, bwyd maethlon in bywyd
    ynddo.
  • Llw o deyrngarwch iddo.
  • Rhodd Duw yng Nghrist ywr Sacrament.

23
  • GWEDDI
  • Rhoes Iesu bwys mawr ar weddi,
  • bod
  • - yn dawel a llonydd yng nghwmni Duw
  • - yn encilgar i ymdeimlo ag agosrwydd Duw

24
  • Ymuno ym mywyd y Drindod Sanctaidd
  • Cyfle
  • - i roi diolch, i gyffesu,
  • - i rannu dyheadau, deisyfiadau
  • - i dderbyn maddeuant, anogaeth, ysgogiad,
    egni.

25
  • Myfyriwn yn dawel a rhannwn ein meddyliau
  • A gawn ein haddoliad yn fwyd ysbrydol.
  • Os na pa gamau sydd angen eu cymryd a chan bwy?
  • Air ffordd ymlaen yn ein gwendid yw wynebur
    dirywiad mewn ysbryd addolgar, gweddigar, fel
    unigolion a chynulleidfa, h.y.
  • Disgwyl wrth yr Arglwydd
  • ... hynny yw ...

26
  • Y MAE ADDOLI DUW YN
  • HANFODOL I BWRPAS EGLWYS
  • Maen agor bywyd cyfan i Dduw
  • - Ymostwng
  • - Diolch
  • - Cydnabod
  • - Gwefreiddio
  • - Ehangu
  • - Dyfnhau
  • - Llenwi

27
  • Mae paratoi ar gyfer addoli yn bwysig
  • Cofio
  • I bwy
  • Sut
  • Maen rhodd
  • Maen creu perthynas

28
  • Beth am fywyd personol?
  • Mae darllen yr ysgrythur yn ystyrlawn a deallus
    yn bwysig
  • - ysgogi dychymyg
  • - ffurfio gweledigaeth
  • - cysylltu âr Duw Byw.

29
  • Beth am weddi bersonol?
  • - bod yn dawel a llonydd, ymdeimlo a Duw yn
    cyffwrdd â ni.
  • - rhannu ein diolch, ein cyffes, ein dyheadau,
    ein disgwyliadau
  • - derbyn maddeuant, anogaeth, ysgogiad ac egni.

30
  • Nid geiriau ond agor ein bywyd drwyddo
  • draw ir Goruchaf Sanctaidd yw gweddi,
  • tyfwn ynddo, yn debyg iddo, ac felly
  • cawn ein cymhwyso an hegnio ganddo.
  • A oes angen adfer defosiwn personol a rhoi mwy o
    le i dawelwch myfyrgar yn ein haddoliad
    cyhoeddus?

31
CORFF CRIST
  • TAFLEN WAITH 15
  • Oherwydd fel y maer corff yn un, a chanddo lawer
    o aelodau, ar rheini oll, er eu bod yn llawer,
    yn un corff, fel hyn y mae Crist hefyd. Oherwydd
    mewn un Ysbryd y cawsom i gyd ein bedyddio i un
    corff, boed yn Iddewon neu yn Roegiaid, yn
    gaethweision neu yn rhyddion, a rhoddwyd i bawb
    ohonom un Ysbryd iw yfed. Oherwydd nid un aelod
    ywr corff, ond llawer. Os dywed y troed, Gan
    nad wyf yn llaw, nid wyf yn rhan or corff, nid
    yw am hynny heb fod yn rhan or corff. Ac os
    dywed y glust, Gan nad wyf yn llygad, nid wyf yn
    rhan or corff, nid yw am hynny heb fod yn rhan
    or corff. Petair holl gorff yn llygad, lle
    byddair clyw? Petair cwbl yn glyw, lle
    byddair arogli? Ond fel y mae, gosododd Duw yr
    aelodau, bob un ohonynt, yn y corff fel y gwelodd
    ef yn dda. Pe baent i gyd yn un aelod, lle
    byddair corff. 1 Corinthiaid 1212-19

32
  • Ystyriwch
  • Eich cynulleidfa chi fel Corff Crist o fewn eich
    bro ach ardal
  • Pwysigrwydd pob aelod.
  • Yr ymdeimlad o berthyn.

33
  • I gyflawni ei phwrpas rhaid i Eglwys fod yn
  • gymuned gynnes, groesawgar, gynhwysol
  • - pob unigolyn yn cyfrif
  • - lle i bob dawn â chyfraniad
  • - perthynas agored â holl bobl Dduw mewn ardal

34
  • A ydym yn gwerthfawrogin gilydd?
  • Beth am gynulleidfaoedd eraill syn perthyn i
    Gorff Crist
  • Beth am groesi ffiniau traddodiad?

35
  • I Bresbyteriaid
  • Mae ir gair Corff ystyr ehangach i
    Bresbyteriaid
  • Eglwysi gydai gilydd yn ffurfio Corff
    Cenedlaethol cymuned Crist.
  • Pob cynulleidfa mewn undeb âi gilydd yng
    Nghrist.
  • Er mwyn Duw yng Nghrist er mwyn Cymru.

36
  • Ond erbyn heddiw rhaid sôn am bwrpas Corff Byd-
  • eang Crist
  • Gwaith Crist yn fyd-eang
  • Yn hyrwyddo cariad, cymod, cyfiawnder, bywyd
  • Yn goresgyn ffiniau iaith, diwylliant, crefydd
  • Aelodaeth o CWM.
  • Rhannwn weledigaeth, doniau, egni, adnoddau,
    gofalon.

37
TAFLEN WAITH 16
  • A dymai roddion rhai i fod yn apostolion, rhai
    yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn
    fugeiliaid ac yn athrawon, i gymhwysor saint i
    waith gweinidogaeth, i adeiladu corff Crist.
    Felly y cyrhaeddwn oll hyd at yr undod a berthyn
    ir ffydd ac i adnabyddiaeth o Fab Duw. Y nôd yw
    dynoliaeth lawn dwf, ar mesur ywr aeddfedrwydd
    syn perthyn i gyflawnder Crist. Effesiaid
    411-13
  • Nodwch
  • Yr Apostol un a anfonwyd yn dyst i bregethu ac
    i wasanaethu o bosib yn deithiol.
  • Y Proffwyd person syn rhannur Gair yn ei
    eglwys leol ei hun
  • Yr Efengylwr cyhoeddwr a rhannwr y ffydd
  • Y Bugail yr un syn gofalu mewn cariad a
    chonsyrn am y praidd a thu hwnt
  • Yr Athro y rhai syn hyfforddi ac yn adeiladu
    yn y ffydd.

38
SYLWCH
Ei eglwys
Doniau Rhoddion Duw
Cynnal a datblygu
Er mwyn ei Chenhadaeth yn y byd
39
  • Cyfle i bawb ddefnyddiou dawn?
  • Sut mae datblygu gweinidogaeth tîm?
  • Pwy och plith fyddech yn eu hannog i fod yn
    weinidog, yn fugail, yn athro, yn efengylwr?
  • COFIWCH BOD Y CYFUNDEB YN CYNNIG HYFFORDDIANT
    Doniau - Sgiliau

40
  • Crynhoi
  • Pwysleisiwyd yn yr adran hon yr adnoddau ysbrydol
    sydd o fewn eglwys ar gyfer ei chenhadaeth.
  • - drwyr bedydd mae pob aelod yn rhan oi
    weinidogaeth ef
  • - mae Paul yn sôn am ddoniau ychwanegol (1 Cor.
    1528) heddiw soniwn am
  • drefnwyr a gweinyddwyr
  • peirianwyr a thrydanwyr
  • pobl trin arian a phobl trin adeiladau

41
  • Sylwn
  • Dim sôn am adeilad nac adeiladau.
  • Pobl syn gwneud eglwys
  • Pobl yr Arglwydd
  • Teulu Duw
  • Pererinion y deyrnas
  • Collwn olwg ar natur a phwrpas eglwys wrth
    warchod capel ni enwad ni.

42
  • Cofiwn
  • Pwrpas mawr Corff Crist yw parhau ei weinidogaeth
    Ef yn y byd hybu dyfodiad y nef newydd ar
    ddaear newydd ar ddynoliaeth newydd ar lun a
    phrydferthwch Iesu Grist ei hun.
  • Egni Crist ei hun yw ein bywyd.
  • Ond mae ei olwg ef i gyfeiriad pobl, ardal,
    cymuned, cenedl a byd.
  • A dyna nin ôl at y cyd-destun!

43
  • Heddiw - adnoddau di-ddiwedd
  • - yn llyfrau, llyfrynnau, fideo, DVD
  • - actio, dawnsio, canu
  • - bywiog addoli, cenhadu, plant,
    ieuenctid, eglwys fyd-eang

44
  • Ffynonellau
  • Christian Resources Exhibition
  • Cymdeithas y Beibl
  • CPS
  • Coleg y Bala
  • Coleg Trefeca
  • Bwrdd y Genhadaeth
  • Eglwysin gyffredinol
  • Christian Survey

45
  • HYFFORDDIANT
  • Pynciaur Ffydd Parch. Ddr. Elwyn Richards
  • Cenhadu Parch. D. Andrew Jones
  • Ieuencid / Plant Coleg y Bala
  • Sgiliau Colegau lleol
  • Cyrsiau penodol o drefniant Elwyn
    Richards

46
  • Cofiwn
  • Pwrpas mawr Corff Crist yw parhau ei weinidogaeth
    Ef yn y byd.
  • Egni Crist ei hun yw ein bywyd.
  • Ond mae ei olwg ef i gyfeiriad pobl
  • A dyna nin ôl at y cyd-destun!

47
  • Crynhoi
  • Pwrpas Eglwys felly yw galluogi pawb i ymateb i
    gariad Duw yn Iesu Grist ai deyrnasiad yn y byd
    on cwmpas ac yng Nghrist gael eu ffurfion
    gymuned newydd syn addoli, yn fynegiant ac yn
    rhagflas or bywyd llawn yn nheyrnasiad cariad
    Duw, syn grëwr, yn fab, ac yn Ysbryd Glân.

48
  • Gweddi
  • Molwn Di, Arglwydd Dduw, Dad, Mab ac Ysbryd Glan,
    am i ti drwyr oesau ddewis gweithio dy fwriadau
    grasol drwy bobl, eu ffurfion gymunedau o ffydd,
    bywyd a gobaith fel bod eu tystiolaeth megis
    lefain mewn blawd, halen y ddaear a goleunir
    byd. Diolch am gyfle i ystyried pwrpas dy eglwys
    an haelodaeth ohoni. Agorwn galon a meddwl i ti
    barhau in ffurfio ar gyfer dy waith.
  • Am y fraint o berthyn, molwn di
  • I ysgwyddor cyfrifoldeb, deisyfwn dy egni
  • Amen.
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com